Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Eve Myles

Holi Eve Myles

Mae Eve Myles wedi dysgu Cymraeg yn arbennig ar gyfer ei rôl ddiweddaraf yn y gyfres ddrama ‘Un Bore Mercher’ ar S4C. Mae Eve yn chwarae rhan Faith, gwraig a mam i dri o blant. Caiff byd Faith ei droi â’i ben i lawr pan mae ei gŵr yn diflannu yn sydyn ac heb esboniad. Mae Eve yn sôn wrthon ni am ei phrofiad yn dysgu’r iaith ac am rai o’i hoff bethau.

Pam dysgu Cymraeg?

Mae’n rhywbeth dw i wedi bod eisiau ei wneud erioed ond heb gael y cyfle o’r blaen. Mae dwy ferch ifanc gyda fi a dw i eisiau eu hannog nhw i siarad Cymraeg hefyd. Ac yna, pan ddaeth rhan Faith, ro’n i wir eisiau cymryd y rhan, felly roedd yn rhaid i fi weithio’n galed iawn i ddysgu’r iaith, ac i sicrhau mod i’n gallu gwneud y rhan yn dda.

Sut mae dysgu’r Gymraeg yn gallu helpu pobl?

Mae llawer o fanteision o ddysgu’r Gymraeg. Dw i’n gallu teimlo’n gyfforddus o gwmpas siaradwyr Cymraeg, ac os oes rhywun yn dod ata’i yn siarad Cymraeg, dw i ddim yn gorfod teimlo’n lletchwith nac ymddiheuro rhagor. Mae’n wych gallu dysgu rhywbeth newydd o hyd, a dw i’n gallu helpu fy merched hefyd.

Beth yw dy gyngor i ddysgwyr eraill?

Byddwch yn amyneddgar, byddwch yn garedig gyda chi eich hun, a chanolbwyntiwch ar beth dych chi wedi’i ddysgu.

Beth yw dy ddiddordebau?

Rhedeg a yoga.

Beth yw dy hoff lyfr?

To Kill a Mockingbird

Pa fath o gerddoriaeth wyt ti’n ei mwynhau?

Popeth – o Shirley Bassey i Imagine Dragons i Amy Wadge

Beth yw dy atgof cynta?

Bod gyda fy nhad ar sedd gefn y beic, a fy nhad yn beicio i fyny bryn serth yn Ystrad ac ro’n i’n ei binsio i fynd yn gyflymach! Mae e’n dal i gofio hynna hefyd.

Beth sy’n dy wneud di’n hapus?

Tân, fy soffa, a phyjamas. Mae bod gartre yn fy ngwneud i’n hapus.

Beth yw dy hoff fwyd?

Bwyd Eidalaidd.

Beth yw dy hoff beth?

Fy hoff beth yw’r bwlch yn fy nannedd!

Dy uchelgais?

I ddysgu rhywbeth newydd o hyd.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Calon.