Holi Francesca Sciarrillo
Yma, dan ni’n holi Francesca Sciarrillo o’r Wyddgrug, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019. Mae Francesca yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru ac mae hi’n ysgrifennu colofn bob wythnos i Lingo.360.Cymru. Mae hi hefyd yn rhedeg cylchoedd darllen misol i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn Sir y Fflint.
Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.
Beth oedd eich hoff lyfr yn blentyn?
Matilda gan Roald Dahl. Ro’n i’n gweld Matilda yn debyg i fi, hogan fach swil oedd yn licio darllen a mynd i’r llyfrgell.
Hoff lyfr fel oedolyn?
Jane Eyre gan Charlotte Brontë, dw i wedi darllen y llyfr sawl gwaith. Eto, ro’n i’n gweld Jane yn debyg i fi, roedd hi’n dangos angerdd at bob dim roedd hi’n ei garu.
Pa lyfr sy wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi?
Siwan gan Saunders Lewis. Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, a darllen y llyfr hwn, newidiodd fy mywyd. Mi wnes i ddysgu cymaint am lenyddiaeth, diwylliant a hanes y Gymraeg, a syrthio mewn cariad gyda’r iaith o ganlyniad.
Hoff lyfr Cymraeg?
Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts. Ar hyn o bryd, dw i’n gwrando ar y llyfr sain ac wrth fy modd.
Lle dach chi’n ysgrifennu eich colofnau?
Adra fel arfer, ond weithiau mewn caffi neu yn y llyfrgell – wastad efo panad wrth fy ochr, wrth gwrs!
Beth sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu eich colofnau?
Llyfrau a darllen fel arfer, ond hefyd cerddoriaeth – dyma’r pethau sy’n bwysig yn fy mywyd i. Dw i hefyd yn mwynhau ysgrifennu am fwyd: ryseitiau o’r Eidal fel arfer.
Dach chi wedi darllen/ysgrifennu mwy ers y pandemig?
Do, yn bendant. Ro’n i eisiau darllen 80 llyfr yn 2020 a 70 yn 2021. Mae bywyd yn fwy prysur erbyn hyn, ond dw i’n gobeithio darllen 60 llyfr eleni.
Dach chi’n mwynhau arwain eich cylchoedd darllen? Be ydy’r awgrym gorau am lyfr i’w ddarllen dach chi wedi ei gael gan aelod o’r cylchoedd darllen?
Yndw, dw i wrth fy modd! Mae pawb yn dod â syniadau diddorol i’r grŵp a dan ni’n trafod. Cyn y Nadolig, roedd sawl un eisiau darllen Capten gan Meinir Pierce Jones – mae ar fy rhestr a dw i’n gobeithio darllen y llyfr yn fuan.
Fasach chi’n hoffi ysgrifennu llyfr? Am beth?
Yn bendant. Dw i eisiau ysgrifennu yn y Gymraeg, ac o bosib am hanes fy nheulu yn symud o’r Eidal i Gymru. Ers dechrau dysgu Cymraeg, mae ysgrifennu yn y Gymraeg wedi bod yn freuddwyd i mi.