Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Denzil yn camu i esgidiau Robin Radio

Denzil yn camu i esgidiau Robin Radio

Yr actor Gwyn Elfyn – oedd arfer chwarae ‘Denzil’ ar ‘Pobol y Cwm’ – sy’n chwarae’r DJ Robin Radio, cymeriad sydd i’w glywed fel rhan o anoddau newydd, rhad ac am ddim y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae gan Robin orsaf radio Gymraeg leol, sef Radio Rocio. Ei gydweithwyr yw Llinos y cynhyrchydd ac Anti Mair.  Mae llawer o bobl yn ffonio am wahanol bynciau, ac mae recordiau o’r rhaglenni ar gael i ddysgwyr wrando arnynt ar dysgucymraeg.cymru

Mae’r recordiau yn rhoi cyfle i ddysgwyr glywed pobl yn siarad am bethau ‘go iawn’ heb orfod deall pob gair ar unwaith – fel bywyd go iawn! Wrth fynd drwy’r cwrslyfyrau Dysgu Cymraeg bydd cyfle i ateb cwestiynau, gwrando am frawddegau pwysig a chyfieithu rhai brawddegau defnyddiol o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Dyma enghraifft o raglen gan Robin Radio ar gyfer y cwrs Sylfaen

 

 

Dyma gyfweliad gyda Gwyn

O ble wyt ti’n dod? 

Ces i fy ngeni ym Mangor ond mi wnes i symud i Drefach yng Nghwm Gwendraeth yn 8 oed a dw i’n dal i fyw yn y cwm. Es i i Ysgol Gynradd Drefach ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth, ac yna i’r Brifysgol yn Aberystwyth.

Ble dechreuodd dy ddiddordeb di mewn actio?
Cymryd rhan mewn dramâu yn yr ysgol ac yn y capel hefyd.

Esbonia mwy am Robin Radio.
Tipyn o gymeriad, sengl a hapus!  Byth yn debygol o gyflawni ei freuddwydion!

Dy uchelgais?
Cael iechyd i fyw oes llawn.

Dy hoff beth a dy gas beth?
Hoff beth - bod allan yng nghwmni teulu a ffrindiau.
Cas beth - Cymry sy'n gwneud drwg i'w gwlad a'u hiaith.

Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Gwylio rygbi a phêl-droed.

Y peth mwyaf doniol sydd wedi digwydd i ti?
Roedd criw pêl-droed Pobol y Cwm ar daith yn Waterford, Iwerddon ac wedi cael 'vase' wydr ddrud o Waterford Crystal yn anrheg gan y Gwyddelod.  Es i allan o'r ystafell i wneud galwad ffôn, a pan ddes i nôl roedd y bechgyn yn taflu'r bocs yn cynnwys yr anrheg o un i'r llall a minnau'n ceisio eu stopio! Fe ollyngwyd y bocs wrth gwrs a sŵn gwydr yn torri'n deilchion. Fi oedd y capten ac ro’n i’n teimlo'n gyfrifol am yr anrheg.  Ond pan agorais y bocs, roedd y bechgyn wedi newid y 'vase' am ddwy botel Lucozade fach!!

Y person mwyaf diddorol i ti ei gyfarfod/chyfarfod? 
Dr. Gareth Evans a oedd yn gymeriad unigryw yn ein pentref ni yn Drefach. Roedd yn alluog tu hwnt, yn darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gymeriad a hanner. Cawsom hanes ei fywyd un noson yn ein cymdeithas ieuenctid a dyna'r araith/sgwrs orau i mi ei chlywed erioed. Roedd ganddo'r gallu i gyfuno'r digri a'r difri, roedd troeon trwstan yn digwydd iddo ac roedd yn genedlaetholwr tanbaid. Atgofion melys iawn o fod yn ei gwmni.

Dy hoff gân Gymraeg?
Y Cwm - Huw Chiswell

Dy hoff le yn y byd?
De Ffrainc

Pe bai modd i ti gael pryd o fwyd gydag unrhyw un (cymeriad hanesyddol/dychmygol/yn byw heddiw) pwy fydde fe/hi a pham?
George Best am ei fod yn gymaint o arwr i mi wrth i mi dyfu i fyny.

Dy hoff air Cymraeg?
Ffrwchnedd (y gair ‘swyddogol’ am fanana!)

Unrhyw neges i ddysgwyr y Gymraeg? 
Daliwch ati!

Disgrifia dy hun mewn tri gair
Trefnus, cymwynasgar a gofidus.