Holi Haley
Yma, ’dyn ni’n holi Haley Evans, sy’n dod o Gaerffili ac sy’n dysgu Cymraeg ar Duolingo. Mae hi’n cefnogi tîm pêl-droed Cymru ac wedi dechrau busnes yn gwerthu dillad pêl-droed i ferched.
Ble wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Ar hyn o bryd, dw i’n dysgu ar y daith i fy ngwaith pob dydd yng Nghasnewydd – dw i’n dal y trên o Gaerdydd ac yn agor Duolingo. Fel arfer, dw i’n gwneud cwpwl o sesiynau bob bore. Dw i’n lwcus achos mae’r cwmni cyfreithiol dw i’n gweithio iddo yn annog pobl i ddysgu Cymraeg, ac mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn y gwaith sy’n hapus i fy helpu.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Dylen ni fod yn falch o’r iaith Gymraeg. Dw i’n deall mwy a mwy o Gymraeg drwy’r amser ac mae hynny’n gwneud i mi deimlo’n hapus iawn.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Mae nwyddau Cymraeg o gwmpas y tŷ – mat ‘croeso’ wrth y drws, clustog ‘hapus’ a magned ar yr oergell sy’n dweud ‘dw i’n hoffi pêl-droed.’ Dw i bob amser yn dweud diolch ar waelod neges ac yn trio anfon neges Gymraeg at gydweithwyr a ffrindiau sy’n siarad Cymraeg.
Wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg yn y busnes?
Ydw – mae sawl un o’r crysau t yn Gymraeg, gan gynnwys crysau Cwpan y Byd wrth gwrs. Dw i bob amser yn defnyddio Cymru yn hytrach na Wales ac mae gan fy ngwefan gyfeiriad Cymraeg sef feWales.cymru.
O ble wyt ti’n cael dy syniadau i gynllunio’r dillad?
Dw i wastad wedi bod yn reit greadigol felly dw i’n meddwl am syniadau yn gyflym, ond mater arall yw eu rhoi ar waith. Mae’n hawdd cael ysbrydoliaeth wrth wylio timau pêl-droed dynion a merched Cymru.
Pryd wnest ti ddechrau dangos diddordeb yn nhîm pêl-droed Cymru?
Roedd pêl-droed yn rhan fawr o fy magwraeth. Es i i fy ngêm gartref gyntaf yn 1999, ac mi wnes i fynd i weld Cymru oddi cartref am y tro cyntaf yn 2003. Dw i prin yn colli gêm.
Pam wnest ti sefydlu’r busnes?
Achos nad oedd unrhyw beth ar gael i ferched. Roedd dillad i ferched yn arfer bodoli flynyddoedd yn ôl, ond mi wnaeth rheiny ddiflannu. Mi wnes i benderfynu mynd ati wedyn i greu rhai fy hun.
Oeddet ti’n disgwyl i’r busnes fod mor llwyddiannus?
Na. Ro’n i’n gobeithio basai’r busnes yn llenwi bwlch a bod rhai pobl yn mynd i hoffi’r cynnyrch, ond mae wedi bod mor boblogaidd dros y blynyddoedd a dw i wedi gwneud ffrindiau arbennig.
Beth ydy’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Cario ymlaen a magu mwy o hyder. Mae gen i ffrindiau sy wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw’n siarad Cymraeg yn hyderus, felly dw i eisiau gallu gwneud yr un peth rhyw ddydd.
Unrhyw gyngor i ddysgwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg?
Ewch amdani, hyd yn oed os dych chi’n dysgu ychydig ar y tro, mi wneith hynny wneud gwahaniaeth. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau achos mae’r rheiny sy’n siarad Cymraeg wedi bod mor gefnogol ac yn hapus i helpu.