Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Haley

Holi Haley

Yma, ’dyn ni’n holi Haley Evans, sy’n dod o Gaerffili ac sy’n dysgu Cymraeg ar Duolingo.  Mae hi’n cefnogi tîm pêl-droed Cymru ac wedi dechrau busnes yn gwerthu dillad pêl-droed i ferched.

Ble wyt ti’n dysgu Cymraeg?

Ar hyn o bryd, dw i’n dysgu ar y daith i fy ngwaith pob dydd yng Nghasnewydd – dw i’n dal y trên o Gaerdydd ac yn agor Duolingo.  Fel arfer, dw i’n gwneud cwpwl o sesiynau bob bore.  Dw i’n lwcus achos mae’r cwmni cyfreithiol dw i’n gweithio iddo yn annog pobl i ddysgu Cymraeg, ac mae nifer o siaradwyr Cymraeg yn y gwaith sy’n hapus i fy helpu.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dylen ni fod yn falch o’r iaith Gymraeg.  Dw i’n deall mwy a mwy o Gymraeg drwy’r amser ac mae hynny’n gwneud i mi deimlo’n hapus iawn.

Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Mae nwyddau Cymraeg o gwmpas y tŷ – mat ‘croeso’ wrth y drws, clustog ‘hapus’ a magned ar yr oergell sy’n dweud ‘dw i’n hoffi pêl-droed.’  Dw i bob amser yn dweud diolch ar waelod neges ac yn trio anfon neges Gymraeg at gydweithwyr a ffrindiau sy’n siarad Cymraeg.

Wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg yn y busnes?

Ydw – mae sawl un o’r crysau t yn Gymraeg, gan gynnwys crysau Cwpan y Byd wrth gwrs.  Dw i bob amser yn defnyddio Cymru yn hytrach na Wales ac mae gan fy ngwefan gyfeiriad Cymraeg sef feWales.cymru.

O ble wyt ti’n cael dy syniadau i gynllunio’r dillad?

Dw i wastad wedi bod yn reit greadigol felly dw i’n meddwl am syniadau yn gyflym, ond mater arall yw eu rhoi ar waith.  Mae’n hawdd cael ysbrydoliaeth wrth wylio timau pêl-droed dynion a merched Cymru.

Pryd wnest ti ddechrau dangos diddordeb yn nhîm pêl-droed Cymru?

Roedd pêl-droed yn rhan fawr o fy magwraeth.  Es i i fy ngêm gartref gyntaf yn 1999, ac mi wnes i fynd i weld Cymru oddi cartref am y tro cyntaf yn 2003.  Dw i prin yn colli gêm.

Pam wnest ti sefydlu’r busnes?

Achos nad oedd unrhyw beth ar gael i ferched.  Roedd dillad i ferched yn arfer bodoli flynyddoedd yn ôl, ond mi wnaeth rheiny ddiflannu.  Mi wnes i benderfynu mynd ati wedyn i greu rhai fy hun.

Oeddet ti’n disgwyl i’r busnes fod mor llwyddiannus?

Na.  Ro’n i’n gobeithio basai’r busnes yn llenwi bwlch a bod rhai pobl yn mynd i hoffi’r cynnyrch, ond mae wedi bod mor boblogaidd dros y blynyddoedd a dw i wedi gwneud ffrindiau arbennig.

Beth ydy’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Cario ymlaen a magu mwy o hyder.  Mae gen i ffrindiau sy wedi dysgu Cymraeg ac maen nhw’n siarad Cymraeg yn hyderus, felly dw i eisiau gallu gwneud yr un peth rhyw ddydd.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Ewch amdani, hyd yn oed os dych chi’n dysgu ychydig ar y tro, mi wneith hynny wneud gwahaniaeth.  Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau achos mae’r rheiny sy’n siarad Cymraeg wedi bod mor gefnogol ac yn hapus i helpu.