Holi Helgard Krause
Yma, ’dyn ni’n holi Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru. Mae Helgard yn dod o’r Almaen ac mae hi wedi dysgu Cymraeg.
Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.
Hoff lyfr yn blentyn?
Ronja Räubertochter gan Astrid Lindgren (Swedeg: Ronja Rövardotter). Mae’r llyfr yn sôn am ferch fach sy’n cael ei magu gan deulu o ladron mewn coedwig yn Scandinafia.
Hoff lyfr fel oedolyn?
Mephisto gan Klaus Mann. Mae hwn yn enghraifft berffaith o’r hyn y gall llyfr da ei gyflawni; darparu mewnwelediad a sylwebaeth ar y rhan dywyllaf a mwyaf cymhleth o hanes yr Almaen, ac eto mae ei neges graidd mor gyffredinol fel ei bod yn dal yn berthnasol heddiw.
Pa gymeriad o lyfr dych chi'n gallu uniaethu fwyaf ag o neu hi?
Dw i ddim fel arfer yn uniaethu â chymeriadau unigol, ond yn hytrach, yn gwerthfawrogi’r llu o lyfrau sydd wedi fy helpu i ddatblygu fy hunaniaeth lesbiaidd a ffeministaidd.
Pa lyfr fasech chi’n ei brynu yn anrheg i rywun a pham?
The History of Wales in Twelve Poems, M. Wynn Thomas. Mae’n enghraifft wych o sut i blethu cyd-destunau gwahanol ein dwy iaith ynghyd i greu hanes cydlynol. Mae wedi ei ysgrifennu a’i ddarlunio’n hyfryd, sy’n ei wneud yn anrheg perffaith i unrhyw un sy’n ymddiddori yng Nghymru.
Pa mor bwysig ydy darllen wrth ddysgu Cymraeg?
Mae darllen yn ffordd o ehangu geirfa. Mae cylchgronau yn adnodd gwerthfawr iawn i ddysgwyr – mae llai o eiriau mewn cylchgronau a’r cynnwys amserol yn eu gwneud yn fan cychwyn delfrydol. Hefyd, mae llyfrau llafar yn ddefnyddiol iawn i’r rhai sy’n prosesu gwybodaeth yn well trwy wrando.
Pa lyfr fyddech chi’n argymell i ddysgwyr?
Mae ceisio darllen llyfr cyfan mewn iaith newydd yn gallu bod yn frawychus iawn. Felly byddai dechrau gyda llyfrau sydd wedi’u hanelu at ddysgwyr fel cyfres Amdani yn help mawr i ennyn hyder er mwyn dal ati.
Unrhyw gyngor i eraill sy’n dymuno dysgu Cymraeg?
Wrth ddysgu Cymraeg, nes i sylweddoli bod treigladau i fod i wneud brawddegau yn haws i’w hynganu, felly nes i ddechrau eu trin yn fwy greddfol (gan geisio gweld beth oedd yn swnio’n gywir). Mi wnaeth hynny helpu fi i beidio gorfeddwl am yr agwedd yma o’r Gymraeg.
Ydy arferion darllen pobl wedi newid yn ystod y pandemig?
Dw i’n credu bod pobl wedi ailddarganfod yr hyn y mae seibiant corfforol yn ei olygu – ar ôl oriau hir o flaen sgrîn – a’r effaith gadarnhaol y mae darllen yn ei gael ar ein meddwl.
Beth oedd y sialens fwyaf yn y gwaith yn ystod y pandemig?
Addasu i weithio o bell heb amharu ar ein gwaith craidd; creu cysylltiadau â phobl heb eu cyfarfod yn bersonol; cydbwyso diogelwch staff y Ganolfan Ddosbarthu ag anghenion llyfrwerthwyr, ysgolion a dysgwyr, gan sicrhau bod llyfrau yn parhau i fod ar gael mor eang â phosib.