Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfres Amdani

Lansiwyd Amdani, y gyfres o lyfrau i ddysgwyr, yn 2018. Mae oddeutu 40 o lyfrau yn y gyfres, sy’n brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r gyfres yn cynnwys straeon ditectif, hunangofiannau, nofelau serch, comedi a straeon byrion, gyda’r holl lyfrau yn cyd-fynd â chyrsiau Dysgu Cymraeg y Ganolfan. Mae’r teitlau wedi’u graddoli ar wahanol lefelau dysgu, o lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr, i lefel Uwch ar gyfer dysgwyr profiadol. Gallwch brynu copïau yn eich siop lyfrau lleol neu drwy wefan Gwales.cymru. Mae nifer o’r teitlau hefyd ar gael trwy blatfform e-lyfrau newydd Cyngor Llyfrau Cymru, ffolio.cymru

Cliciwch ar lefel isod, i weld pa lyfrau sydd ar gael i chi fwynhau.

Mynediad (Entry)

Sylfaen (Foundation)

Canolradd (Intermediate)

Uwch (Advanced)

Teithio drwy hanes
diwrnod
wynne evans