Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Huw Aaron

Holi Huw Aaron

O ble wyt ti’n dod? Rho rhywfaint o dy gefndir

Dw i’n Jac o Abertawe, ond erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd, yn briod â Luned, gyda dwy ferch fach, Eos ac Olwen. Dw i’n gartwnydd, arlunydd ac awdur llyfrau plant.

Ble ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn tynnu lluniau?

Dw i ddim yn gallu cofio amser pan nag o’n i’n neud cartŵns, creu storis dwl neu'n arlunio cymeriadau’r llyfrau o’n i’n eu darllen. Dw i mor ddiolchgar (a dal yn synnu!) taw dyna yw’r ‘day job’ erbyn hyn - rhywbeth nad o’n i erioed wedi ystyried fel opsiwn wrth dyfu lan.

Beth yw’r gwaith wyt ti wedi ei wneud ar gyfer Dydd Miwsig Cymru?

Dw i wedi ail ddylunio cymeriadau Seren a Sbarc, creu comic bach am y ddau, a gyda fy ffrind Paul, o gwmni animeiddio POP, wedi creu fideo i fynd gyda chân Seren a Sbarc. Ges i lawer o hwyl yn gwneud y gwaith!

Dy uchelgais?

I greu straeon sy’n ddoniol, yn cyffwrdd, a sy’n llawn rhyfeddodau.

Dy hoff beth a dy gas beth?

Hoff beth:  Gwylio fy mhlant yn dawnsio a chwerthin.
Cas beth:   Fy mhlant yn dawnsio a chwerthin am 3am!

Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?

Os dw i ynghanol llyfr da, dyna fydd yn sugno lan bob eiliad sbâr.

Y peth mwyaf doniol sydd wedi digwydd i ti?

Yn fy mywyd flaenorol fel rheolwr ariannol, fe wnes i actio mewn pantomeim yn Theatr Brycheiniog. Yn anffodus, roedd fy nhîm i gyd yn digwydd bod yn bresennol yn y perfformiad, yn y rhes gyntaf. Doniol iddyn nhw, nid i fi!

Y person mwyaf diddorol i ti ei gyfarfod/chyfarfod? 

Fe wnes i weithio gyda’r arlunydd anhygoel Chris Riddell, a oedd yn fraint.

Dy hoff gân Gymraeg?

‘Swynol’ gan Texas Radio Band.

Pam wyt ti’n meddwl bod Dydd Miwsig Cymru yn bwysig?

Mae’n wych i ni gael cyfle i gyflwyno’r bandiau a’r cerddorion anhygoel yma i gynulleidfa newydd.

Dy hoff le yn y byd?

Wrth fy modd gyda traethau’r Gŵyr, Portmeirion, Rajastan, Marrakesh… ond does unman yn debyg i adre!

Dy hoff air Cymraeg?

Cnec!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gor-hyderus, anhyderus, chwit-chwat.