Holi Ifan Evans
Mae Ifan Evans yn cyflwyno rhaglen bob prynhawn dydd Llun-Iau ar BBC Radio Cymru. Mae wythnos nesaf (10-17 Hydref) yn Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg Radio Cymru a bydd Ifan yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais i ddewis hoff gân dysgwyr Cymru. Beth am ddysgu mwy amdano?
Beth yw dy ddiddordebau?
Dw i wrth fy modd yn chwarae, gwylio a darllen am bêl-droed a gwylio bandiau yn perfformio’n fyw.
Dy hoff fwydydd?
Bwyd Mecsicanaidd yw fy hoff fwyd ond mae’n anodd peidio â dewis stecen a chips pan dw i’n eu gweld ar fwydlen.
Dy uchelgais?
Fy uchelgais pan o’n i yn blentyn oedd chware pêl-droed i Man Utd a Chymru, ond mae’n rhy hwyr i hynna nawr, felly rhaid meddwl am rywbeth arall!!
Un peth doniol sydd wedi digwydd i ti.
Dw i’n cofio cymeryd cic rydd wrth chwarae pêl-droed a llithro a thorri fy mraich. Poenus ar y pryd, ond doniol wrth edrych nôl.
Dy noson ddelfrydol?
Gwylio cerddoriaeth fyw, ac yna pryd o fwyd mewn bwyty moethus gyda’r wraig.
Pwy fyddet ti’n hoffi cael pryd o fwyd gydag e/hi a pham?
Fyddwn i wrth fy modd yn cael pryd o fwyd gyda Sir Alex Ferguson a Barrack Obama.
Dy hoff gân Gymraeg?
Dw i’n ffan mawr o’r grŵp o Aberystwyth, y Mellt, ac mae’r gân ‘Planhigion Gwyllt’ yn wych.
Dy wyliau gorau erioed.
Ro’dd fy mis mêl yn San Francisco a California yn arbennig iawn ond nes i wir fwynhau ein gwyliau teuluol tramor cynta i Tenerife llynedd. Nath Heti a Jos fwynhau yn fawr iawn a braf yw’r atgofion hynny.
Dy hoff air Cymraeg?
Ysgyfarnog
Cyngor neu neges i ddysgwyr y Gymraeg?
Cofiwch fod pawb wedi dysgu’r iaith rywbryd, a’r peth pwysicaf yw siarad ac ymarfer yr iaith yn gyson. Daliwch ati!