Holi Iwan Bryn
Mae Iwan Bryn yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol fel pennaeth yr Isadran Gadwraeth. Bydd gŵyl genedlaethol Ar Lafar yn digwydd yn y Llyfrgell ynghyd ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ar 6 Ebrill. Felly beth yn union yw swydd Iwan yn y Llyfrgell?
Beth yw dy waith o ddydd i ddydd?
Rheoli tua 12 o gadwraethwyr – criw arbenigol sydd yn trin ac yn diogelu eitemau bregus ac unigryw o gasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r eitemau yma yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, lluniau, mapiau, ffotograffau, seliau cwyr, ac amryw o wrthrychau eraill.
Beth yw’r rhan anoddaf o’r dydd?
Gadael ar ddiwedd y dydd!
Pam fod y gwaith yn bwysig?
Mae’r gwaith yma yn galluogi mynediad at wybodaeth, ac yn fodd o ddiogelu ac estyn oes trysorau’r genedl ar gyfer defnyddwyr y dyfodol
Beth sydd wedi newid dros y blynyddoedd?
Dim llawer o ran ein ffordd o weithio. Er ein bod yn parhau i ddefnyddio technegau traddodiadol wrth drin eitemau, mae ein cyfraniad yn hollbwysig yn yr oes ddigidol. Heb ein gwaith byddai’n amhosibl digido unrhyw gasgliad yn ei gyfanrwydd.
Dy hoff air/term Cymraeg?
Ar hyn o bryd: ‘Rhwymiad memrwn llipa’ (limp vellum binding) – math o rwymiad canoloesol gyda chloriau memrwn.
Pam fyddet ti’n annog rhywun i ddod i’r Llyfrgell?
Byddwn yn annog rhywun i ddod i’r Llyfrgell am sawl rheswm:
I weld yr adeilad mawreddog sydd yn atyniad yn ei hun.
I flasu awyrgylch Gymreig a Chymraeg y sefydliad.
I weld yr arddangosfeydd sydd yn werth eu gweld.
I fwynhau digwyddiadau difyr.
I ymweld â’r siop chwaethus, ac i gael pryd o fwyd neu baned yng Nghaffi Pen Dinas.