Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Iwan Bryn

Holi Iwan Bryn

Mae Iwan Bryn yn gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol fel pennaeth yr Isadran Gadwraeth. Bydd gŵyl genedlaethol Ar Lafar yn digwydd yn y Llyfrgell ynghyd ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre ar 6 Ebrill. Felly beth yn union yw swydd Iwan yn y Llyfrgell?

Beth yw dy waith o ddydd i ddydd?

Rheoli tua 12 o gadwraethwyr – criw arbenigol sydd yn trin ac yn diogelu eitemau bregus ac unigryw o gasgliadau’r Llyfrgell.  Mae’r eitemau yma yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, lluniau, mapiau, ffotograffau, seliau cwyr, ac amryw o wrthrychau eraill.

Beth yw’r rhan anoddaf o’r dydd?

Gadael ar ddiwedd y dydd!

Pam fod y gwaith yn bwysig?

Mae’r gwaith yma yn galluogi mynediad at wybodaeth, ac yn fodd o ddiogelu ac estyn oes trysorau’r genedl ar gyfer defnyddwyr y dyfodol

Beth sydd wedi newid dros y blynyddoedd?

Dim llawer o ran ein ffordd o weithio. Er ein bod yn parhau i ddefnyddio technegau traddodiadol wrth drin eitemau, mae ein cyfraniad yn hollbwysig yn yr oes ddigidol.  Heb ein gwaith byddai’n amhosibl digido unrhyw gasgliad yn ei gyfanrwydd.

Dy hoff air/term Cymraeg?

Ar hyn o bryd: ‘Rhwymiad memrwn llipa’ (limp vellum binding) – math o rwymiad canoloesol gyda chloriau memrwn.

Pam fyddet ti’n annog rhywun i ddod i’r Llyfrgell?

Byddwn yn annog rhywun i ddod i’r Llyfrgell am sawl rheswm:
I weld yr adeilad mawreddog sydd yn atyniad yn ei hun.
I flasu awyrgylch Gymreig a Chymraeg y sefydliad.
I weld yr arddangosfeydd sydd yn werth eu gweld. 
I fwynhau digwyddiadau difyr.
I ymweld â’r siop chwaethus, ac i gael pryd o fwyd neu baned yng  Nghaffi Pen Dinas.