Holi Jo Knell
Dyma Jo Knell. Enillodd Jo wobr Dysgwr y Flwyddyn yn ôl yn 1991. Mae hi erbyn hyn yn rhedeg siop lyfrau Cant a Mil yng Nghaerdydd.
Dyma ei stori hi yn dysgu’r iaith.
O ble dych chi’n dod?
Ces i fy ngeni ym Mryste ond symudon ni i Penzance yng Nghernyw pan o’n i’n 12 oed.
Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan o’n i yn fy ugeiniau ac yn byw yng Nghaerdydd.
Pryd wnaethoch chi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn?
Gwnes i ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn 1991
Beth ydych chi’n ei gofio am y diwrnod?
Dw i’n cofio mwynhau noson gyda ffrindiau cefnogol iawn. Doedd hi wir ddim yn teimlo fel cystadleuaeth o gwbl.
Beth oedd eich hanes yn siarad Cymraeg ar ôl hynny?
Es i’n ôl i’r coleg i astudio’r Gymraeg a hyfforddi fel athrawes. Bues i’n dysgu’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd, gweithio fel ymgynghorydd ac ysgrifennu llyfrau i blant sy’n dysgu’r Gymraeg.
Dw i erbyn hyn yn rhedeg siop lyfrau Gymraeg, Siop Cant a Mil yn Mynydd Bychan, Caerdydd.
Beth yw eich cyngor i bobl sy wrthi’n dysgu Cymraeg?
Y peth pwysicaf yw i siarad Cymraeg ar bob cyfle ac i ddefnyddio faint bynnag o’r iaith sy gyda chi.
Beth, yn eich barn chi, yw’r peth pwysicaf wrth wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn?
Dw i’n credu taw’r cyfraniad mae rhywun yn ei wneud yn ei gymuned yw elfen bwysica’r gystadleuaeth.
Geirfa
Cefnogol – supportive
Ymgynghorydd – consultant
Cyfraniad - contribution