Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Katie

Holi Katie

Mae Katie Gill, sy’n byw yn Ynys Môn gyda’i theulu ifanc, yn perchen siop ffrogiau priodas, ac yn mwynhau dysgu Cymraeg mewn dosbarth rhithiol gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin. Mae hi hefyd wedi dechrau rhoi fideos Cymraeg ar Instagram bob dydd er mwyn ymarfer siarad yr iaith. Beth am ddysgu mwy amdani:

Alli di sôn ychydig am dy gefndir:

Katie dw i a dw i’n byw yn Sir Fôn ar hyn o bryd. Dw i’n dod o du allan i Lerpwl yn wreiddiol. Fe wnes i symud i Gymru tua 8 mlynedd yn ôl, a dechrau dysgu Cymraeg yn syth.

Pam wnes di ddechrau dysgu Cymraeg?

Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn i ddechrau dysgu’r iaith er mwyn siarad gyda’r bobl yn lleol. Mae’n bwysig defnyddio’r Gymraeg yn aml, peidio â bod ofn gwneud camgymeriadau, a siarad Cymraeg bob dydd.

Pa ddiddordebau sydd gen ti?

Dw i’n mwynhau rhedeg yn fy amser rhydd. Mae gen i ddau o blant bach - un ferch, 6 oed, ac un mab sy’n 2 oed, ac maen nhw’n fy nghadw i’n brysur! Dw i wrth fy modd efo cerddoriaeth o bob math, a cherddoriaeth Gymraeg hefyd. Dw i’n hoffi trio deall geiriau caneuon Cymraeg, ac yn gwrando ar ganeuon fel ‘Sebona fi’ gan Yws Gwynedd a chaneuon Elin Fflur.

Wyt ti’n mwynhau dysgu Cymraeg?

Dw i wrth fy modd yn dysgu Cymraeg, ac er bod y cyfan ar-lein ar hyn o bryd, mae’n hawdd i fi ymuno efo’r dosbarthiadau heb orfod gadael y tŷ. Dw i’n dysgu ar lefel Canolradd ar hyn o bryd mewn dosbarth unwaith yr wythnos.

Fe wnes i sefyll arholiad Sylfaen llynedd, a dw i’n barod i fynd at y lefel nesaf. Dw i hefyd wedi bod ar gwrs preswyl i Nant Gwrtheyrn. Roedd yn her, ond yn brofiad anhygoel medru siarad Cymraeg bob dydd. Ar ôl wythnos roedd hi’n anodd newid nôl i siarad Saesneg! Mae hi mor bwysig defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.

Beth yw dy gyngor i ddysgwyr eraill?

Does dim ots os dach chi’n gwneud camgymeriadau. Mae hi’n fwy pwysig siarad yr iaith. Dw i’n hoffi defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith hefyd. Dw i’n gweithio mewn siop gwerthu ffrogiau priodas, ac mae gen i swydd gyda’r Eglwys yng Nghymru. Mae mynd i gyfarfodydd lle mae pawb yn medru’r Gymraeg yn dda i fi er mwyn medru gwrando a thrio deall a dysgu geiriau newydd yn yr iaith.

Beth yw dy uchelgais?

Dw i wir eisiau ennill Dysgwr y Flwyddyn rywbryd! Eleni dw i’n recordio un fideo bob dydd ar Instagram o’r enw, ‘Un funud fach’ er mwyn medru dysgu brawddeg newydd a chanolbwyntio ar siarad y Gymraeg am ychydig bach bob diwrnod.

Dy hoff air Cymraeg?

Cyfrifiadur, llongyfarchiadau, gwasanaethau – am eu bod nhw’n eiriau mawr dw i’n mwynhau gallu eu dweud!

Dal ati Katie! Os hoffech chi weld fideos ‘Un funud fach’ Katie ar Instagram, dilynwch @misskatiegill.