Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Laura Thomas

Holi Laura Thomas

O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi? 
Laura dw i.  Dw i’n byw yng Nghaerdydd, lle es i i’r brifysgol.  Dw i’n gweithio gartre fel rheolwr gwefan i fusnes lleol.  Mae dwy ferch gyda fy ngŵr a fi, ac maen nhw’n mynd i ysgol gynradd Gymraeg.

Pam dych chi wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Ro’n i moyn dysgu Cymraeg achos mod i wastad eisiau bod yn ddwyieithog a ’dyn ni moyn i’n plant ni fod yn ddwyieithog hefyd.  Dw i wrth fy modd eu bod nhw’n gallu siarad a darllen yn Gymraeg am mai merched Cymraeg ydyn nhw!

Sut brofiad yw dysgu mewn dosbarth rhithiol?

Dw i’n mwynhau dysgu yn y dosbarth rhithiol achos bod hi’n haws i fi ymuno â chyrsiau ac ymarfer siarad gyda dysgwyr eraill.  Dych chi’n gallu siarad â phawb a gofyn cwestiynau heb broblem.  Hefyd, pan dych chi’n cael eich rhoi mewn i grŵp bach, mae’n sypreis neis achos dych chi ddim yn gwybod pwy fydd yno!

Beth dych chi’n ei fwynhau am ddysgu Cymraeg?

Dw i wrth fy modd pan dw i’n siarad Cymraeg ac mae pobl eraill yn deall beth dw i’n ei ddweud, a dw i’n eu deall nhw hefyd!  Dw i’n caru’r ffaith mod i’n gallu darllen yn Gymraeg a’r cyffro pan dw i’n defnyddio geiriau cymhleth ac yn gallu siarad yn fwy rhugl.

Dych chi’n cael cyfle i ddefnyddio eich Cymraeg y tu allan i’r dosbarth?

Ydw, dw i’n siarad â ffrindiau a’r athrawon yn ysgol fy merched.  Mae fy nhad-yng-nghyfraith yn helpu fi achos mae e wedi dysgu Cymraeg yn barod a nawr mae’n cefnogi fy astudiaethau i.  Dw i’n meddwl bod llawer o adnoddau i’w defnyddio os dych chi’n edrych o gwmpas.

Beth yw eich hoff air Cymraeg?

‘Caru’ achos pan ddechreuodd fy merch siarad, dwedodd hi “fi’n caru ti” ac ro’n i bron â chrïo!

Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Paid â phoeni am wneud camgymeriadau, cyhyd â bod pobl yn deall beth dych chi’n meddwl, dyna sy’n bwysig! Joia!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair

Dw i’n berson positif, siaradus a phenderfynol.

Adnabod rhywun sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg?  Cliciwch yma er mwyn dod o hyd i gwrs addas.