Holi Lauren Phillips
Mae Lauren Phillips yn adnabyddus fel y cymeriad Kelly Charles yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, sy’n cael ei dangos ar S4C. Mae’r gyfres wedi bod yn rhedeg ers 1974, yn hirach nag unrhyw opera sebon arall sydd wedi ei chynhyrchu gan y BBC, ac yn parhau’n boblogaidd tu hwnt gyda gwylwyr Cymraeg a di-Gymraeg.
Hawys Roberts o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol aeth i holi Lauren Phillips.
Pa gymeriad dych chi’n ei chwarae yn Pobol y Cwm ac ers pryd?
Enw fy nghymeriad i yw Kelly Charles. Evans oedd cyfenw Kelly cyn iddi briodi Ed. Dwi wedi bod yn rhan o’r gyfres ers 2003.
Pa fath o gymeriad yw hi?
Mae Kelly’n ddi-flewyn ar dafod! Mae ganddi galon fawr, ac mae hi’n onest a theg. Mae Kelly’n ymddangos yn hyderus, egnïol a lliwgar ond mae ganddi gefndir trist. Daeth Kelly i fyw yng Nghwmderi at ei modryb, Anita, wedi magwraeth anodd a thlawd gyda’i mam.
Dych chi’n debyg o gwbl i’r cymeriad?
Dw i ddim yn meddwl mai fi ydy’r person gorau i ateb yr uchod. Gofynnwch i’m rhieni a’m ffrindie!
Beth yw’r peth gorau am fod yn rhan o Pobol y Cwm?
Y peth gorau yw cael deffro bob bore gan wybod ’mod i’n edrych ymlaen at ddiwrnod o waith yn chwarae cymeriad dw i’n ei charu, gyda thîm o ffrindie a chydweithwyr cefnogol a hael.
Sut fyddech chi’n gwerthu’r gyfres i rywun sy erioed wedi gwylio Pobol y Cwm o’r blaen?
Gwyliwch y gyfres…does dim angen ei gwerthu hi!
Beth yw’r stori fwyaf diddorol i chi fod yn rhan ohoni?
Y stori mwyaf diddorol a thorcalonnus i mi hyd yn hyn yw’r stori ddiweddar am golli fy ngŵr, Ed, ac ymdopi â bod yn feichiog, wedi colli gŵr o dan amodau erchyll.
Ar ôl priodi Kelly, cafodd Ed ei lwgrwobrwyo (bribed) gan ei gyn-wraig, Angela. Wedi cael ei wthio i’r pen, lladdodd Ed, Angela, a cheisiodd dynnu Kelly gydag ef dros ochr dibyn serth. Llwyddodd Kelly i ddianc, ond syrthiodd Ed dros yr ochr.
Mae wedi bod yn her i bortreadu cymeriad sy’n ceisio ffeindio’r cryfder i symud ymlaen a pharatoi i eni babi llofrudd yn ogystal â bod yn fam sengl!
Beth dych chi’n ei wneud pan nad dych chi’n gweithio?
Mi fyddai’n caru unrhyw fath o antur. Mi oeddwn i’n gymnast ac yn ddawnswraig, felly yoga ac acro (math o ddawnsio athletig) sy’n fy niddori i erbyn hyn. Dw i hefyd yn mwynhau mynd i gerdded a darganfod llefydd newydd. Es i sgïo am y tro cyntaf y llynedd - profiad anhygoel, a dw i’n mynd eto eleni! Dw i hefyd yn gofalu am Mam-gu sy’n diodde o dementia.
Beth yw eich hoff fwyd?
Cinio dydd Sul, stêc a sglodion, a saws peppercorn wrth gwrs. Dw i hefyd yn caru te a thost!
Eich hoff wyliau erioed?
Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â lot o lefydd anhygoel ar draws y byd. Mi nes i garu Bali, a Thailand hefyd.
Tri gair i ddisgrifio chi eich hun?
Amyneddgar. Gobeithiol. Caredig.
Eich hoff air Cymraeg?
I’r Gâd! (Diolch i brifathro Ysgol Gyfun Llanhari, Mr Peter Griffiths!)
Eich cyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Yn gyntaf, da iawn chi am eich ymdrech ac ymroddiad i ddysgu’r iaith. Does neb yn wirioneddol gywir 100% o’r amser a dylen ni gyd, boed yn ddysgwyr dewr neu’n siaradwyr iaith gyntaf allu addasu a gwella’r ffordd ’dyn ni’n defnyddio’n hiaith er mwyn hybu ac annog ei defnydd hi. Peidiwch ag ofni cymysgu’r ddwy iaith, a pheidiwch ag ofni gofyn cwestiynau. Dylen ni gyd ymfalchïo yn ein hiaith a theimlo’n rhydd i’w siarad hi’n hyderus.
Gallwch wylio Pobol y Cwm ar S4C ddydd llun i ddydd Gwener gydag omnibws bob dydd Sul.
Ewch i www.bbc.co.uk/programmes/p001pp0l am fwy o wybodaeth.