Holi Lisa Hopkins
Yma, ’dyn ni’n holi Lisa Hopkins, sy’n byw yn America. Mae Lisa yn canu gyda Chôr Cymry Gogledd America, sy’n dod ar daith i Gymru ym mis Gorffennaf. Mae teulu Lisa yn dod o Gymru ac mae hi’n diwtor dysgu Cymraeg…
O ble dych chi’n dod?
Dw i’n byw ym Mhennsylvania. Mae fy nheulu’n dod o Gymru’n wreiddiol. Mi wnaeth fy nghyndeidiau, oedd yn löwyr, symud i America i gael cyfleoedd gwell. Daethon nhw i Pennsylvania i weithio yn y pyllau glo yn ardal Scranton.
Beth dych chi’n wneud o ddydd i ddydd?
Ro’n i’n dysgu mathemateg mewn ysgol uwchradd, ond nawr dw i wedi ymddeol. Felly, dw i’n mwynhau garddio, dysgu Cymraeg, ymchwilio ac ysgrifennu hanes y teulu, a chanu gyda’r côr.
Pam dych chi wedi dysgu Cymraeg?
Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn deall mwy am fy nhreftadaeth. Dw i’n credu bod gallu siarad Cymraeg yn bwysig... achos mae’r iaith yn rhan o’m cefndir. Hefyd, mae gallu darllen yn rhoi mwy o ystyr i ganeuon, emynau a phapurau teulu.
Dych chi’n dal i ddilyn cyrsiau dysgu Cymraeg?
Ydw, dw i’n cymryd rhan yn y dosbarthiadau gyda’r côr, a dw i’n cael sesiwn unigol bob wythnos gyda thiwtor gwych o’r enw Hefina. Dw i’n gwrando ar BBC Radio Cymru, a dw i’n mwynhau darllen llyfrau Cymraeg - T Llew Jones ydy fy hoff awdur.
Beth dych chi’n ei fwynhau am fod yn diwtor?
Dw i’n dysgu un dosbarth lefel Mynediad bob wythnos ers dwy flynedd. Mae’n braf gweld cariad y criw at y Gymraeg. Mae gweld hyder y dysgwyr yn datblygu wrth siarad Cymraeg yn rhoi boddhad mawr i mi.
Dych chi’n mwynhau canu gyda’r côr?
Ydw, mae ein caneuon ni mor brydferth, ond yn fwy na hynny, ’dyn ni fel un teulu mawr.
Sut dych chi’n teimlo am daith y côr?
Dw i’n gyffrous iawn. Dw i’n edrych ymlaen at ganu mewn llefydd arbennig fel Castell Aberteifi a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac wrth gwrs, dw i’n edrych ymlaen at siarad Cymraeg!
Am fwy o wybodaeth am y daith, ewch i wefan y côr yma.