Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Lois Arnold

Holi Lois Arnold

Mae Lois Arnold yn wreiddiol o Loegr. Cafodd hi ei geni yn Surrey a’i magu yn Stevenage yn Swydd Efrog.

Enillodd hi wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004.  Mae hi’n un o 36 dysgwr Cymraeg sy wedi ennill y wobr ers iddi gael ei lansio 40 mlynedd yn ôl.

Cawson ni sgwrs gyda Lois am ei thaith i siarad yr iaith.

Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?

Dechreuais i ddysgu Cymraeg yng Ngwent pan symudais i Gymru (i'r Fenni) yn 1997.  

Beth dych chi’n ei gofio am y diwrnod gwobrwyo?

Dw i'n cofio bod yn nerfus dros ben!  Ond ces i hwyl, hefyd. Roedd grŵp o bedwar ohonon ni oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Roedd pawb yn hyfryd ac yn gefnogol i'w gilydd.

Roedd hi'n sioc pan gyhoeddodd y beirniaid taw fi oedd wedi ennill!  Doeddwn i ddim wedi paratoi dim i'w ddweud wrth fynd i'r llwyfan a derbyn y wobr. Dw i'n siŵr i mi ddweud rhywbeth twp!

Ond ro'n i'n falch iawn - ohono i fy hun ac o weddill y criw wnaeth gyrraedd y rownd derfynol.

Pa wahaniaeth wnaeth y wobr i chi?

Gwnaeth ennill y wobr roi hyder i fi ac fy ysbrydoli i wneud mwy dros yr iaith.

Ces i nifer o wahoddiadau i fynd i siarad â grwpiau gwahanol, yn ddysgwyr ac yn siaradwyr Cymraeg. Roedd hi'n hyfryd cwrdd â chymaint o bobl frwd.

Gwnes i gyfweliadau ar y teledu a'r radio hefyd - profiad brawychus, braidd, ond roeddwn i'n falch iawn o'r cyfle i ddweud 'wrth y byd' ei bod hi'n bosib dysgu Cymraeg a bod rôl bwysig gan ddysgwyr i'w chwarae yn y gymuned Gymraeg ac yn nyfodol yr iaith.

Ces i hyd yn oed wahoddiad i Balas Buckingham, i barti Nadolig y Frenhines! Siaradais i â chwpl o aelodau o'r teulu brenhinol am yr iaith. Roedd un yn synnu fod ‘na lyfrau'n cael eu cyhoeddi yn Gymraeg!

Ces i'r fraint y flwyddyn wedyn o gael fy urddo i Orsedd y Beirdd. Ro'n i mor falch. Ro'n i dan deimlad mawr yn ystod y seremoni - a'r diweddar Ray Gravell hyfryd yn Geidwad y Cleddyf ar y pryd yn eisin ar y gacen!

Beth oedd eich hanes yn siarad yr iaith ar ôl hynny?

Ers hynny dw i wedi gwneud cymaint. Ro'n i'n aelod o’r grŵp wnaeth sefydlu Menter Iaith newydd yn 2007, sef Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy. Fi oedd cadeirydd cyntaf y Fenter.

Dw i wedi gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg i oedolion tan yn ddiweddar, ac wedi mwynhau mas draw. Dw i wedi ysgrifennu nofelau a straeon byrion i ddysgwyr Cymraeg (a gyhoeddwyd gan Gomer, y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch). Doeddwn i erioed wedi ysgrifennu ffuglen cyn dysgu Cymraeg, ac mae hi wedi bod yn bleser mawr.

Dw i'n mwynhau siarad â grwpiau darllen am lyfrau a'u hysbrydoli nhw i ysgrifennu, hefyd. 

Erbyn hyn dw i'n byw yn Sir Gâr ac mae nifer o fy ffrindiau a chymdogion yn siaradwyr Cymraeg.  Dw i'n gwirfoddoli gyda Age Cymru, ac yn rhedeg dosbarthiadau cadw'n heini a Tai Chi i bobl hŷn.  Mae llawer o'r rhai sy'n mynychu'r sesiynau yn siaradwyr Cymraeg.  Dw i am ddechrau rhedeg sesiynau drwy'r Gymraeg yn y dyfodol.

Dw i'n hoffi canu yn fy amser sbâr a dw i wrth fy modd yn canu yn Gymraeg mewn corau lleol.

Beth yw eich cyngor i bobl sy wrthi’n dysgu Cymraeg?

Fy nghyngor i ddysgwyr: mwynhewch y daith!  Mae'n cymryd amser i ddysgu, felly peidiwch â digalonni os ydy hi'n teimlo’n anodd weithiau.

Ffeindiwch ffyrdd o fwynhau'r Gymraeg - teledu, radio, darllen, cerddoriaeth, cyngherddau, grwpiau siarad ar-lein... Daliwch ati a byddwch chi'n llwyddo!

Beth, yn eich barn chi, yw’r elfen bwysicaf wrth wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn?

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn dda a chyfathrebu yn effeithiol yn bwysig iawn, wrth gwrs.

Ond mae brwdfrydedd a chariad at yr iaith yr un mor bwysig. Efallai yn bwysicach na chywirdeb perffaith.

Mae Dysgwyr y Flwyddyn yn llysgenhadon dros yr iaith a’r gobaith ydy byddan nhw’n mynd ymlaen i ysbrydoli nifer o bobl eraill.

Geirfa

Brwd - eager

Brawychus - scary

Braidd – rather (brawychus braidd – rather scary)

Braint - honour

Urddo – inaugurate

Ceidwad y cleddyf – keeper of the sword

Mwynhau mas draw – thoroughly enjoyed

Ffuglen - fiction

Mynychu - attend

Digalonni – discourage

Cyfathrebu - communicate

Cywirdeb perffaith – perfect accuracy

Llysgenhadon - ambassadors

Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.

Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod mewn seremoni arbennig.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.