Holi Mari Lovgreen
Mae Mari Lovgreen yn enwog fel cyflwynydd ac awdures. Dyma oedd ganddi i’w ddweud wrthon ni:
O ble wyt ti’n dod? Beth yw dy gefndir?
Dw i'n dod o Gaernarfon yn wreiddiol - tref orau'r byd! Es i i'r brifysgol yn Aberystwyth i astudio Cymraeg. Fy swydd gyntaf oedd cyflwyno rhaglen blant ar S4C o'r enw Uned5, a dw i wedi mwynhau cyflwyno rhaglenni gwahanol ers hynny. Nes i symud i Lanerfyl yn y canolbarth ar ôl priodi ffarmwr, ac mae dau o blant bach gyda ni, Betsan ac Iwan.
Ble wyt ti’n gweithio ar hyn o bryd?
Ar hyn o bryd dw i'n mwynhau cyfnod mamolaeth ers geni Iwan ym mis Ionawr. Ond, dw i wedi bod yn gweithio ar ambell brosiect ysgrifennu a chyflwyno, ac yn edrych mlaen at fynd yn ôl i gyflwyno rhaglen Tag ar S4C eto fis Ionawr nesaf.
Dy uchelgais?
Bod yn deulu hapus yn mwynhau pob math o anturiaethau efo'n gilydd!
Dy hoff beth a dy gas beth?
Hoff beth - chwerthin efo fy hoff bobl.
Cas beth - pobl negyddol a beirniadol.
Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Cysgu ar y funud, os ca i hanner cyfle!
Y peth mwya doniol sy wedi digwydd i ti?
Symud i fyw ar fferm!
Y person mwya diddorol i ti ei gyfarfod/chyfarfod?
Ges i gyfweld â lot o bobl enwog pan o’n i’n cyflwyno Uned5, ond un o'r bobl fwya ffeind a'r mwyaf o hwyl i'w gyfweld oedd y cyflwynydd Dermot O'Leary.
Dy hoff lyfr Cymraeg?
Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis
Dy hoff air Cymraeg?
Cwsg.
Unrhyw neges i ddysgwyr y Gymraeg?
Peidiwch byth â theimlo bod eich Cymraeg chi ddim digon da! Mae pob Cymro hanner call mor hapus o'ch clywed chi'n ymdrechu i siarad yr iaith - daliwch ati a da iawn chi!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Agored, cymdeithasol, blinedig.