Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Marian o Batagonia

Holi Marian o Batagonia

Mae Ana a Marian yn byw ym Mhatagonia, ac yn mynd i gynnal sesiwn goginio Nadoligaidd fyw ar 4 Rhagfyr. Dewch i ddysgu mwy am Marian.

O ble dych chi’n dod a beth yw eich cefndir chi?

Dw i'n dod yn wreiddiol o Sarn ym Mhen Llŷn. Mae fy nhad yn dod o'r Iseldiroedd a Mam o Gymru, felly ces i fy magu ar aelwyd Gymraeg ac Iseldireg! 

Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?

Dw i'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd efo'r teulu ac efo fy ffrindiau, ac wrth gwrs yn fy ngwaith fel tiwtor Cymraeg!

Beth yw eich hoff beth a’ch cas beth?

Dw i wrth fy modd pan fod pobl yn dangos cyfeillgarwch am ddim rheswm. Mae'n gas gen i lanhau...dw i'n teimlo'n sâl jyst edrych ar y mop! Dw i byth byth yn smwddio.

Pa fath o fwydydd dych chi’n hoffi eu coginio?

Dw i'n hoffi coginio pethau iachus efo llawer o lysiau. Dw i'n hoffi coginio crymbl hefyd. Fy hoff gyfuniad ydy afalau a gellyg.

Beth fyddai eich pryd delfrydol?

Ar ôl byw yn yr Ariannin eleni dw i wedi cael blas ar gig asado! Felly gwin bach, asado a chwmni da (yn yr haul wrth gwrs).

Oes gyda chi unrhyw draddodiadau Nadolig arbennig yn ymwneud â bwyd?

Byddwn ni’n cael brecwast Nadolig efo'r teulu adref ar fore dydd Nadolig, gyda golau cannwyll a danteithion hyfryd. Traddodiad teulu Dad!

Beth yw eich hoff lyfr Cymraeg?

Wnes i wir fwynhau 'Rhannu Ambarél' gan Sonia Edwards.

Beth yw eich hoff air Cymraeg?

Llwybreiddio.

Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Siarad yn uchel efo chi eich hun yn Gymraeg, yn y car, yn y gegin, ac efo'r gath neu'r ci! A peidio â bod ofn newid y sgwrs yn ôl i'r Gymraeg os oes rhywun yn troi i'r Saesneg.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair

Creadigol, caredig, agored

Sesiwn goginio