Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Mark Butler

Holi Mark Butler

Buon ni’n holi Mark Butler a ddaeth yn ail yng ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae Mark yn gweithio fel Swyddog Gwybodaeth yn Ysbyty Maelor, Wrecsam ac wrth ei fodd yn defnyddio’r Gymraeg yn ei fywyd bob dydd.

O ble dach chi’n dod a beth yw eich cefndir?

Mi ges i fy ngeni ym Margate ond symudais i i Wrecsam pan o’n i’n 10 oed.

Pam oeddech chi eisiau dysgu Cymraeg?

Ro’n i’n caru dysgu Cymraeg yn yr ysgol gynradd ar ôl i mi symud i Gymru, ond mi es i i ysgol uwchradd yng Nghaer a oedd yn golygu nad oeddwn i’n cael cyfle i ddysgu’r iaith rhagor. Ar ôl i fy mab ddechrau ysgol, dechreuodd o ddysgu Cymraeg a mwynheais i ei helpu. Ar yr un adeg, roedd cwrs Mynediad yn cael ei gynnig yn y gwaith a dw i wedi bod yn dysgu ers hynny.

Sut/ble wnaethoch chi ddysgu?

Dw i’n mynychu gwersi efo tiwtor y Bwrdd Iechyd bob wythnos ac yn mynychu’r Cinio Clebran efo dysgwyr eraill y Bwrdd Iechyd bob bythefnos. Dw i’n defnyddio’r ap Duolingo hefyd.

Pryd a ble dach chi’n defnyddio eich Cymraeg?

Mae gynnon ni sawl cydweithiwr sy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac maen nhw’n rhoi llawer o gyfleoedd i ni i siarad Cymraeg. Dw i’n trio cefnogi busnesau yn Wrecsam sy efo siaradwyr Cymraeg hefyd.

Beth yw eich hoff air Cymraeg?

Llyfrgell.

Beth yw eich hoff lyfr/rhaglen deledu Cymraeg?

Dw i’n hoffi gwylio rhaglenni chwaraeon ar S4C a dw i’n gwylio’r rhaglen newyddion Yr Wythnos bob wythnos. Dw i’n ffan mawr o raglenni cerddoriaeth ar Radio Cymru hefyd, yn enwedig sioeau Rhys Mwyn a Georgia Ruth. Ar hyn o bryd, dw i’n mwynhau’r llyfr Storis Grav sef casgliad o atgofion am Ray Gravell gan Rhys Meirion.

Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Mae’n ddefnyddiol i ymarfer bob dydd, hyd yn oed tipyn bach. Yn fy marn i, mae’n bwysig cael cefnogaeth athro. Mae’n beth da gwylio a gwrando ar raglenni Cymraeg – mae’n ffordd o gysylltu â diwylliant newydd a dysgu amdano. Ac yn olaf, siaradwch Gymraeg yn aml, a pheidiwch â theimlo’n ofnus.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair!

Awyddus i ddysgu!