Holi Marlyn Samuel
Yma, ’dyn ni’n holi’r awdures boblogaidd o Sir Fôn, Marlyn Samuel. Mae Marlyn, sy’n gweithio i BBC Cymru, yn ysgrifennu ar gyfer y radio a’r llwyfan hefyd.
Mae’r cyfweliad yma wedi’i gyhoeddi fel rhan o Amdani - Gŵyl Ddarllen Dysgu Cymraeg. Mae mwy o wybodaeth am yr ŵyl ar gael yma.
Hoff lyfr yn blentyn?
Pan yn blentyn, ro’n i’n hoffi llyfrau Minti a Monti ar Eu Gwyliau gan Gwenllian Gwyn Jones. Roedd y llyfrau yn adrodd hanes dwy lygoden fach, oedd yn mynd ar eu gwyliau i lan y môr efo’u rhieni. Ro’n i hefyd yn hoffi llyfrau The Famous Five gan Enid Blyton, ac mi wnes i ddarllen y gyfres i gyd. Ro’n i’n mwynhau darllen am anturiaethau Julian, Dick, George, Anne a Timmy y ci.
Hoff lyfr fel oedolyn?
Nes i fwynhau darllen nofel John Boyne, The Heart’s Invisable Furies. Mae’r llyfr wedi aros yn y cof, a buaswn i’n annog unrhyw un i ddarllen y llyfr.
Pa gymeriad o lyfr dych chi’n gallu uniaethu fwyaf ag o neu hi?
Dw i’n gallu uniaethu fwyaf gyda Bridget o Bridget Jones’s Diary gan Helen Fielding. Mae sawl un wedi sôn fod rhai o’r pethau mae Bridget a finnau yn eu dweud neu eu gwneud yn debyg iawn!
Pa lyfr sy wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi?
Dw i’n hoffi nofelau Hi yw fy Ffrind a Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas. Mi wnaeth y nofelau yma fy ysgogi i ysgrifennu llyfrau hawdd sy’n cynnwys stori dda a chymeriadau difyr. Hefyd, nes i fwynhau nofel Omlet gan Nia Medi. Nofel ddoniol ydy Omlet sy’n sôn am athrawes ar ei gwyliau haf. Ar ôl darllen y nofel hon, nes i benderfynu mai dyna’r math o lyfr ro’n i eisiau ysgrifennu.
Ble dych chi’n ysgrifennu?
Dw i’n ysgrifennu wrth fy nesg yn y stydi fach i fyny grisiau yn y tŷ.
Pa bynciau sy’n eich ysbrydoli i ysgrifennu?
Mae pob mathau o bynciau gwahanol yn fy ysbrydoli i ysgrifennu. Yn Pum Diwrnod a Phriodas, priodas deuluol sy’n digwydd dramor ydy’r pwnc. Yn Milionêrs, mae teulu yn ennill y loteri. Mae Llwch yn yr Haul yn sôn am deulu sy’n mynd i Cyprus i wasgaru llwch y penteulu. Mae Cwcw yn adrodd hanes dwy hanner chwaer sy’n dod i adnabod ei gilydd yn well. Yn Cicio’r Bwced cawn hanes gwraig sy’n cael cyfle i ad ennill ei bywyd ar ôl marwolaeth ei gŵr. Mae gen i ddiddordeb mewn pobl a pherthynas pobl â’i gilydd.
Dych chi wedi ysgrifennu mwy yn ystod y pandemig?
Ar ddechrau’r pandemig, ro’n i’n sownd yn y tŷ fel pawb arall. Doeddwn i ddim yn gallu mynd i dorri fy ngwallt na chyfarfod ffrindiau am ginio neu baned. O ganlyniad, roedd fy word count i yn cynyddu! Roedd yn braf gallu dianc i fyd dychmygol fy nghymeriadau.
Beth fyddai eich cyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu?
Ewch amdani. Mae cael disgyblaeth a llwyddo i ddyfalbarhau yn gallu bod yn anodd. Ond os oes ganddoch chi stori i’w dweud, yna sgwennwch chi!