Holi Martyn Croydon
Mae Martyn Croydon yn dod yn wreiddiol o Kidderminster, sy rhwng Birmingham a’r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Erbyn hyn mae Martyn yn byw gyda’i deulu ym Mhen Llŷn ac mae e’n diwtor Dysgu Cymraeg i oedolion.
Roedd teulu Martyn yn arfer dod i Bwllheli ar wyliau ac mae’n cofio mynd yno efo’i hen nain a hen daid pan oedd yn blentyn bach.
Dyma ychydig o’i hanes a’i daith yn dysgu Cymraeg.
Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Gwnes i ddechrau dysgu ar y we pan o'n i'n dal i fyw yn Lloegr. Ar ôl symud i Gymru yn 2009, gwnes i ddechrau mynd i ddosbarthiadau yn y coleg ym Mhwllheli.
Ym mha Eisteddfod wnaethoch chi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn?
Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cylch yn 2013.
Be' dach chi’n ei gofio am y diwrnod gwobrwyo?
Dw i'n cofio aros yn hir am y canlyniad ar y noson! Roedden ni wedi cael pryd o fwyd hyfryd mewn pabell grand y tu allan i westy yn ymyl Dinbych ac ro'n i'n llawn disgwyl i enw un o'r lleill oedd yn y rownd gyn-derfynol gael ei gyhoeddi. Mi ges i sioc fawr pan wnaethon nhw ddeud mai fi oedd wedi ennill!
Pa wahaniaeth wnaeth y wobr i chi?
Wel, mi ges i flwyddyn wych wedyn yn mynd o gwmpas Cymru'n siarad efo gwahanol grwpiau ac yn cael fy holi – mi wnes i wir fwynhau hynny.
Roedd pawb yn glên iawn yn deud faint oedden nhw'n gwerthfawrogi'r ymdrech o'n i wedi ei wneud i ddysgu'r iaith. Roedd hynny'n galonogol iawn i mi ar ddechrau fy swydd fel tiwtor Dysgu Cymraeg.
Be' oedd eich hanes yn siarad yr iaith ar ôl hynny?
Ro'n i wedi cyrraedd y pwynt lle o'n i'n siarad Cymraeg bob dydd cyn y gystadleuaeth ond erbyn hyn dw i wedi priodi Cymraes Gymraeg, mae gynnon ni ddau o blant a dw i'n gweithio'n llawn amser yn gwneud rhywbeth sy'n golygu cymaint i mi, trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'n hawdd mynd am ddyddiau heb siarad Saesneg ac mae siarad Cymraeg yn teimlo mor naturiol bellach.
Ond, ambell waith, dw i’n stopio ac yn meddwl, 'waw, dw i wedi gwneud hyn i gyd mewn iaith mor arbennig ac yn fy hoff le yn y byd.' Dw i'n teimlo'n lwcus iawn, iawn.
Be' ydy eich cyngor i bobl sy wrthi’n dysgu Cymraeg?
Daliwch ati, ac er bod y daith ddim bob tro'n hawdd, mwynhewch bob llwyddiant (dim ots pa mor fach).
Mae’n rhaid defnyddio'r Gymraeg sy gynnoch chi gymaint â phosib, o'r cychwyn.
Wrth gyrraedd lefel Canolradd, ffeindiwch un person dach chi'n medru siarad dim ond Cymraeg efo nhw (fydd hi ddim yn hawdd i ddechrau ond mi wneith pethau wella os dach chi'n dal ati!).
Mi wnaeth hyn roi hwb mawr i mi a fy helpu i gynnal sgyrsiau hirach am wahanol bynciau. Y dyddiau yma, mae'r cynllun 'Siarad' gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn wych ar gyfer hyn.
Be', yn eich barn chi, ydy’r elfen bwysicaf y dylai beirniaid ystyried wrth wobrwyo dysgwr y flwyddyn?
Mae clywed straeon y bobl yn y rownd gyn-derfynol bob blwyddyn mor ysbrydoledig a dw i bob tro'n meddwl pa mor anodd fasai hi taswn i'n gorfod dewis enillydd.
Mae'n debyg baswn i'n gwobrwyo rhywun sy wir yn gwneud ymdrech i fynd allan i'r gymuned lle maen nhw'n byw a defnyddio'r iaith.
Mae’r gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn agored i ddysgwyr dros 18 oed sy’n hyderus yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Gall unigolion enwebu eu hunain, neu gall perthynas, ffrind, cydweithiwr neu diwtor enwebu rhywun.
Bydd y rownd gyn-derfynol yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 11 a 12 Mai, gyda’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes yr Eisteddfod, ddydd Mercher, 9 Awst gyda’r beirniaid: y cyflwynydd radio, Tudur Owen; Liz Saville Roberts AS; a Geraint Wilson-Price, rheolwr Dysgu Cymraeg Gwent. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod mewn seremoni arbennig.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r ffurflen gais ar wefan yr Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 1 Mai.
Geirfa
Ffin – border
Calonogol – encouraging
Hwb – boost