Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Beth yw Siarad?

Cofrestrwch

Os dych chi eisiau siarad gyda’ch darparwr cwrs lleol am Siarad gallwch gysylltu â nhw fan hyn.

  • Cynllun gwirfoddol sy’n dod â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg at ei gilydd i sgwrsio'n anffurfiol.
  • Nod y cynllun yw cynyddu hyder dysgwyr a’u cyflwyno i gyfleoedd i fwynhau eu Cymraeg yn lleol.
  • Mae parau yn trefnu cwrdd am 10 awr dros gyfnod o wythnosau a misoedd.
  • Mae’r cynllun ar gael i ddysgwyr ar gyrsiau Canolradd, Uwch a Gloywi.

Mwy o wybodaeth:

Beth yw Siarad

Y nod yw cynyddu hyder dysgwyr a’u cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg yn lleol.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Ar ôl cael gwybod pwy yw eich partner, dych chi’n trefnu cwrdd i ymarfer siarad ac efallai mynd i bethau gyda’ch gilydd yn y gymuned, e.e. cymdeithas, côr, gig neu ddrama. Neu fallai byddwch chi eisiau sgwrsio dros baned. Y peth pwysig yw eich bod chi’n cwrdd mewn llefydd cyhoeddus. Ac mae’n bosib sgwrsio’n rhithiol hefyd wrth gwrs.

Pwy sy’n cael cymryd rhan?

Cynllun gwirfoddol yw hwn, gyda siaradwyr Cymraeg hefyd yn cyflwyno dysgwyr i fwy o gyfleoedd i fwynhau eu Cymraeg yn lleol.

Mae’r cynllun ar gael i ddysgwyr ar lefel Canolradd, Uwch a Gloywi.

Gallwch drafod unrhyw bwnc dych chi’n cytuno gyda’ch gilydd.  Gallwch drafod pynciau pob dydd neu sôn am bethau dych chi wedi gweld, gwneud neu ddarllen.  Mae’r sesiynau yn gyfleoedd i’r dysgwyr ymarfer eu Cymraeg a magu hyder.  Nid gwersi ydyn nhw.

Sut ydw i’n cofrestru?

I gymryd rhan, mae’n rhaid i siaradwyr a dysgwyr gwblhau’r ffurflen syml sydd ar gael isod.

Unwaith i chi gael eich paru byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau hynny ac i’ch cyflwyno i’ch partner Siarad.  Efallai y byddwn yn cymryd ychydig o amser i ddarganfod y partner sy’n addas i chi, ond byddwn yn cysylltu ar unwaith pan fydd hyn wedi digwydd.  Byddwch yn gallu cytuno gyda’ch gilydd pa mor aml dych chi’n cwrdd ac am ba hyd.  Os dych chi eisiau newid eich partner Siarad am unrhyw reswm, mae’n bosib i chi wneud hynny ar unrhyw adeg.

I sicrhau diogelwch pawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun, dilynwch y canllawiau hyn os gwelwch yn dda. Dych chi’n cymryd rhan yn y gweithgaredd yma ar eich risg eich hun, ac mae disgwyl i chi gymryd pob gofal.  Cysylltwch â’ch darparwr Dysgu Cymraeg lleol os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon gyda chi.  Byddan nhw’n gallu eich helpu.

Wrth gofrestru, dych chi’n cytuno i ni ddefnyddio eich data i gadw mewn cysylltiad gyda chi ac i’ch darparwr cwrs lleol i rannu eich cyfeiriad e-bost a’ch enw cyntaf gyda’r partner Siarad.  Dim ond eich cyfeiriad e-bost a’ch enw cyntaf fydd yn cael ei rannu gyda’r person sy wedi’i baru gyda chi.  Mae’n rhaid bod dros 18 i gymryd rhan, ac mae’n helpu os dych chi’n hoffi ‘siarad’! 

Os dych chi’n siaradwr Cymraeg neu’n ddysgwr ar lefel Canolradd, Uwch neu Loywi, cliciwch ar y ddolen berthnasol isod:

Cofrestru

Os dych chi eisiau siarad gyda’ch darparwr cwrs lleol am Siarad gallwch gysylltu â nhw fan hyn.

"Mae dysgu iaith fel dysgu canu offeryn – mae angen digon o ymarfer!  Nod y cynllun yma yw magu hyder dysgwyr a’u hannog i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywydau pob dydd."

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol