Holi Meinir Pierce Jones
Mae Meinir Pierce Jones yn byw yn Nefyn, Pen Llŷn gyda’i theulu, ac mae’n gweithio fel golygydd creadigol (creative editor) gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.
Mae Meinir wedi cyhoeddi sawl nofel i blant ac oedolion dros y blynyddoedd, ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 am ei nofel, Capten.
Oeddet ti’n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?
Ro’n i wrth fy modd! Roedd gen i athrawon da yn Ysgol Nefyn ac Ysgol Glan-y-Môr ym Mhwllheli yn fy annog i ysgrifennu. Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn dal ati i ysgrifennu, cadw dyddiadur, ysgrifennu storïau neu wneud comics - cadw'r bensel yn gynnes!
Pryd gwnest ti ddechrau cystadlu gyda dy waith?
Gwnes i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor yn 1975, a chael beirniadaeth gas (harsh criticism) am gerdd. Mae mor bwysig bod yn garedig wrth feirniadu (criticising) gwaith pobl, yn arbennig pobl ifanc. Dw i wedi cystadlu dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol – ar y Fedal Ryddiaith (the Prose Medal), y Goron a Gwobr Goffa Daniel Owen. Dw i ddim yn meddwl y bydda i’n cystadlu eto.
Beth sy'n dy ysbrydoli?
Mae lle yn ofnadwy o bwysig ac yn ysbrydoli. Mae Capten yn dweud hanes teulu fy nhad, a hanes yr hen gymdeithas a diwydiant morwrol (maritime industry) Nefyn. Mae cerdded llwybrau fy ardal yn fy ysbrydoli wrth i mi gael amser i feddwl a hel syniadau.
Pa adeg o'r dydd wyt ti’n ysgrifennu?
Dw i’n ysgrifennu syniadau gyda’r nos. Fel llawer o ysgrifenwyr, y bore ydy’r amser gorau i ysgrifennu, egwyl yn y pnawn ac wedyn cynllunio gyda’r nos ar gyfer y bore wedyn.
Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu’n greadigol?
Mae bod yn aelod o grŵp ysgrifennu yn werthfawr iawn, achos mae bod yng nghwmni pobl eraill sy’n caru ysgrifennu yn hyfryd. Y cyngor mawr arall ydi: darllenwch ddigon. O, ia! A sgwennwch, sgwennwch, sgwennwch!
Oes yna unrhyw lyfrau ar y gweill (in the pipeline)?
Dim eto! Mae gen i syniad am nofel gyfoes (contemporary), a dw i eisiau ysgrifennu nofel hanes arall. Ond mae angen llawer o amser i hynny – blynyddoedd yn wir. Ar ôl dweud hynny, dw i’n hoffi bod yn brysur, felly, gwyliwch y gofod (watch this space)!