Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Meinir Pierce Jones

Holi Meinir Pierce Jones

Mae Meinir Pierce Jones yn byw yn Nefyn, Pen Llŷn gyda’i theulu, ac mae’n gweithio fel golygydd creadigol (creative editor) gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon. 

Mae Meinir wedi cyhoeddi sawl nofel i blant ac oedolion dros y blynyddoedd, ac enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 am ei nofel, Capten.

Oeddet ti’n hoffi ysgrifennu yn yr ysgol?

Ro’n i wrth fy modd!  Roedd gen i athrawon da yn Ysgol Nefyn ac Ysgol Glan-y-Môr ym Mhwllheli yn fy annog i ysgrifennu.  Mae’n bwysig fod plant a phobl ifanc yn dal ati i ysgrifennu, cadw dyddiadur, ysgrifennu storïau neu wneud comics - cadw'r bensel yn gynnes!

Pryd gwnest ti ddechrau cystadlu gyda dy waith?

Gwnes i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dwyfor yn 1975, a chael beirniadaeth gas (harsh criticism) am gerdd.  Mae mor bwysig bod yn garedig wrth feirniadu (criticising) gwaith pobl, yn arbennig pobl ifanc.  Dw i wedi cystadlu dair gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol – ar y Fedal Ryddiaith (the Prose Medal), y Goron a Gwobr Goffa Daniel Owen.  Dw i ddim yn meddwl y bydda i’n cystadlu eto.   

Beth sy'n dy ysbrydoli?

Mae lle yn ofnadwy o bwysig ac yn ysbrydoli.  Mae Capten yn dweud hanes teulu fy nhad, a hanes yr hen gymdeithas a diwydiant morwrol (maritime industry) Nefyn.  Mae cerdded llwybrau fy ardal yn fy ysbrydoli wrth i mi gael amser i feddwl a hel syniadau.      

Pa adeg o'r dydd wyt ti’n ysgrifennu?

Dw i’n ysgrifennu syniadau gyda’r nos.  Fel llawer o ysgrifenwyr, y bore ydy’r amser gorau i ysgrifennu, egwyl yn y pnawn ac wedyn cynllunio gyda’r nos ar gyfer y bore wedyn.

Unrhyw gyngor i rywun sy eisiau dechrau ysgrifennu’n greadigol?

Mae bod yn aelod o grŵp ysgrifennu yn werthfawr iawn, achos mae bod yng nghwmni pobl eraill sy’n caru ysgrifennu yn hyfryd.  Y cyngor mawr arall ydi: darllenwch ddigon.  O, ia!  A sgwennwch, sgwennwch, sgwennwch!

Oes yna unrhyw lyfrau ar y gweill (in the pipeline)?

Dim eto!  Mae gen i syniad am nofel gyfoes (contemporary), a dw i eisiau ysgrifennu nofel hanes arall.  Ond mae angen llawer o amser i hynny – blynyddoedd yn wir.  Ar ôl dweud hynny, dw i’n hoffi bod yn brysur, felly, gwyliwch y gofod (watch this space)!