Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Melangell Dolma

Holi Melangell Dolma

Mae Cymru Fyw a Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn cydweithio ar gynhyrchu cyfres o ddramâu meicro ysgafn sy’n dilyn hanes dysgwr Cymraeg.

Y gyntaf yn y gyfres oedd ‘Enfys’ nôl yn 2020.  Roedd y ddrama yn dangos Nick, sy'n dysgu Cymraeg, yn ceisio cwblhau ei dasg gwaith cartref.

Eleni, bydd tair pennod newydd yn cael eu rhyddhau yn ystod Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar BBC Radio Cymru.

Melangell Dolma yw awdur y dramâu meicro a chawson ni sgwrs gyda hi i ddod i’w hadnabod yn well.

O ble wyt ti yn dod?

Ces i fy magu yn Llanfrothen, Sir Feirionnydd.

Ble wyt ti’n byw nawr?

Dw i’n byw yng Nghaerdydd.  Mi wnes i ddod lawr yma i astudio yn y Coleg Cerdd a Drama 10 mlynedd yn ôl. Ond dw i’n ysu i symud yn ôl i Wynedd!

Beth ydy dy swydd o ddydd i ddydd?

Dw i wedi bod yn actores ac yn ddramodydd llawrydd yn gweithio ar lwyfan, teledu a radio ers 2014.  Ond dw i newydd ddechrau swydd newydd gyda Theatr Genedlaethol Cymru fel Cydlynydd Datblygu Creadigol dros gyfnod mamolaeth.

Dw i’n gweithio i’r cwmni ers dau fis, ac wedi dysgu llwyth.  Dw i wrth fy modd yn cefnogi dramodwyr ac artistiaid eraill wrth iddyn nhw fynd trwy’r broses o gynnig syniadau, ymchwilio ac ysgrifennu drafftiau o ddramâu ar gyfer y cwmni.

O ble daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ddrama micro 'Enfys'?

Nôl yng ngwanwyn 2020, fel aelod o Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru mi ges i wahoddiad i gynnig syniad ar gyfer drama fer ddigidol am y cyfnod clo.  Gan fod bywyd mor ansicr ar y pryd, ro’n i’n bendant mod i eisiau sgwennu rhywbeth oedd yn dwymgalon, yn ddigri ac yn cynnig gobaith o ryw fath.

Dros nos, roedd ein profiadau wyneb yn wyneb wedi symud i fod dros sgrin, gan gynnwys unrhyw ddosbarthiadau nos neu wersi.

Ro’n i’n gweld lot o sôn ar y cyfryngau cymdeithasol am bobl oedd wedi dechrau dysgu Cymraeg.  Dyna sut ddaeth y syniad o fideo gwaith cartref gan Nick i’w athrawes Enfys.

Wyt ti wedi ysgrifennu drama meicro o’r blaen? 

Dw i wedi ysgrifennu dramâu byrion o’r blaen, ond dim byd llai na 15 munud.  Felly, roedd pum munud o hyd yn sialens newydd.  A dim ond ar gyfer y llwyfan ro’n i wedi ysgrifennu cyn hyn, felly roedd creu cynnwys digidol i’w ffilmio yn rhywbeth newydd hefyd.  Mewn amser mor fyr, mae’n rhaid i bob un gair hawlio ei le, a gyrru’r stori yn ei blaen.  Gwersi defnyddiol i ddysgu fel awdur!

Ro’n i bob amser eisiau ysgrifennu, ond mi gymerodd amser reit hir i mi fynd amdani. Fel actor, roedd yn gwneud synnwyr i mi gychwyn efo sgwennu dramâu yn hytrach na rhyddiaith.  Es i ar gwrs sgriptio yn Nhŷ Newydd efo Aled Jones Williams a Sarah Bickerton yn 2016 a dw i wedi bod wrthi ers hynny.

Pa mor hawdd oedd rhoi dy hun yn esgidiau dysgwr?

Mae gen i sawl ffrind sydd wedi neu wrthi yn dysgu Cymraeg.  Mae un sy’n anfon negeseuon i mi yn gyson yn gwirio rhywbeth neu’i gilydd - yn aml iawn mae’n holi am rywbeth nad ydw i erioed wedi ei ystyried o’r blaen.

Sut oedd y broses o gydweithio gydag actor a chyfarwyddwr heb ymarfer wyneb yn wyneb?

Cafodd y bennod gyntaf ei ffilmio yng nghanol y cyfnod clo cyntaf.  Roedd rhaid i Richard Nichols, yr actor, ffilmio’r cwbl efo ffôn symudol ar ei ben ei hun yn ei gartref, efo Rhian Blythe yn ei gyfarwyddo dros alwad fideo.  Roedd yn dipyn mwy o sialens i’r ddau yma, nag i mi fel awdur.  Ond ro’n ni i gyd mor falch o’r cyfle i gael bod yn greadigol trwy’r cyfnod llwm yna.

Tro yma mi gawsom ni ddiwrnod o ymarfer ar leoliad i gyd efo’n gilydd oedd yn bleser pur.  Mae wastad yn gyffrous clywed actorion yn darllen geiriau ti wedi ysgrifennu am y tro cyntaf.

Mae yna dair pennod newydd yn cael eu rhyddhau eleni, beth fedri di ddweud amdanyn nhw?

Wel mae’n anodd heb roi unrhyw spoilers!  Dan ni’n ailymuno efo stori Nick wythnos ar ôl y bennod gyntaf, nôl ym mis Mehefin 2020.  Mae’r cyfyngiadau yn dechrau cael eu llacio am y tro cyntaf, ond mae dosbarth Cymraeg Nick efo Enfys yn dal yn digwydd yn rhithiol.

Ac yn olaf… ’dyn ni’n cael cyfarfod Enfys y tro yma?

Ydi, mae Enfys yn ymddangos yn y penodau yma.  A hefyd ambell gymeriad cwbl newydd, gan gynnwys Julie, cyd-fyfyriwr i Nick sy’n gweld ei hun fel dipyn o match-maker ond weithia’n gwneud mwy o ddrwg nag o les!

Gallwch weld y dramâu meicro gan Melangell Dolma yma.

Geirfa

Magu – raised

Ysu – crave

Dramodydd llawrydd – freelance playwright

Cydlynydd Datblygu Creadigol – Creative Development Co-Ordinator

Llwyth – a lot

Cefnogi – support

Grŵp Dramodwyr Newydd – New Playwrights’ Group

Drama fer ddigidol – short digital drama

Ansicr – uncertain

Twymgalon – heart-warming

Digri– funny

Her - challenge

Llwyfan – stage

Hawlio ei le – win its place

Gwneud synnwyr – make sense

Rhyddiaith – literature

Gwirio rhywbeth – to check something

Ystyried – consider

Cyfarwyddo – direct a production

Cyfnod llwm – bleak period

Pleser pur – pure joy

Cyfyngiadau – restrictions

Ymddangos – appear

Mwy o ddrwg nag o les – make more damage than good