Holi Nicola
Yma, ’dyn ni’n holi Nicola Stokes, sy’n dysgu Cymraeg ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Mae hi’n gweithio i Goleg Gwent fel Swyddog Data Gwybodaeth ac mae’n defnyddio ei Chymraeg yn y gwaith.
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o Bontypŵl ac wedi byw yn yr ardal erioed. Es i i Goleg Pontypŵl ar ôl ysgol a chael gwaith yng Ngholeg Gwent rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Dw i bellach yn gweithio i Dysgu Cymraeg Gwent.
Pam wnes di ddechrau dysgu Cymraeg?
Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg achos fy swydd, ond wrth i mi weithio gyda chydweithwyr arbennig sy’n siarad Cymraeg bob dydd, gwnes i benderfynu fy mod i wir am fentro dysgu’r iaith a rhoi sialens i mi fy hun.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg yn y gwaith?
Ydw, dw i’n trio defnyddio cymaint o Gymraeg â phosib yn y gwaith drwy siarad gyda phobl ac ysgrifennu e-byst.
Ydy gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i ti?
Ydy, yn bendant. Wrth siarad Cymraeg gydag eraill yn y gwaith, dw i’n gallu cymryd rhan ym mhopeth sy’n digwydd.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Y peth gorau ydy cyfarfod pobl newydd a mwynhau defnyddio’r hyn dw i’n ei ddysgu gyda chydweithwyr a ffrindiau. Hefyd, mae cael cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith yn deimlad gwych.
Sut brofiad oedd bod yn rhan o’r fideo marchnata i Dysgu Cymraeg Gwent dros yr haf?
Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn y fideo, gyda’r nod o ddangos i eraill beth ydy manteision dysgu’r Gymraeg.
Oes gyda ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Daliwch ati a chofiwch ymarfer cymaint â phosib. Mae ymarfer ychydig bach bob dydd yn helpu.
Beth ydy’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?
Parhau i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg!