Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Nicola

Holi Nicola

Yma, ’dyn ni’n holi Nicola Stokes, sy’n dysgu Cymraeg ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Gwent.  Mae hi’n gweithio i Goleg Gwent fel Swyddog Data Gwybodaeth ac mae’n defnyddio ei Chymraeg yn y gwaith.

O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?

Dw i’n dod o Bontypŵl ac wedi byw yn yr ardal erioed.  Es i i Goleg Pontypŵl ar ôl ysgol a chael gwaith yng Ngholeg Gwent rai blynyddoedd yn ddiweddarach.  Dw i bellach yn gweithio i Dysgu Cymraeg Gwent.

Pam wnes di ddechrau dysgu Cymraeg?

Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg achos fy swydd, ond wrth i mi weithio gyda chydweithwyr arbennig sy’n siarad Cymraeg bob dydd, gwnes i benderfynu fy mod i wir am fentro dysgu’r iaith a rhoi sialens i mi fy hun.

Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg yn y gwaith?

Ydw, dw i’n trio defnyddio cymaint o Gymraeg â phosib yn y gwaith drwy siarad gyda phobl ac ysgrifennu e-byst.

Ydy gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i ti?

Ydy, yn bendant.  Wrth siarad Cymraeg gydag eraill yn y gwaith, dw i’n gallu cymryd rhan ym mhopeth sy’n digwydd.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Y peth gorau ydy cyfarfod pobl newydd a mwynhau defnyddio’r hyn dw i’n ei ddysgu gyda chydweithwyr a ffrindiau.  Hefyd, mae cael cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith yn deimlad gwych.

Sut brofiad oedd bod yn rhan o’r fideo marchnata i Dysgu Cymraeg Gwent dros yr haf?

Gwnes i fwynhau cymryd rhan yn y fideo, gyda’r nod o ddangos i eraill beth ydy manteision dysgu’r Gymraeg.

Oes gyda ti unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Daliwch ati a chofiwch ymarfer cymaint â phosib.  Mae ymarfer ychydig bach bob dydd yn helpu.

Beth ydy’r cam nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Parhau i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg!