Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro

Holi Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro

O ble dych chi’n dod?

Ges i fy ngeni a fy magu yng Nghasnewydd.

Beth yw eich cefndir chi?

Doedd dim Cymraeg o gwbl yn yr ardal, dw i hyd yn oed yn cofio gorfod canu ‘God Save The Queen’ yn yr ysgol. Dyna siom! Dw i’n cofio clywed yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf pan ro’n i’n 11 a meddwl pa mor anhygoel oedd bod iaith arall yn bodoli yma yng Nghymru oedd yn perthyn i ni’r Cymry.

Pam o’ch chi eisiau dysgu Cymraeg?

I gyfathrebu yn ddwyieithog gyda’r cyhoedd mewn achlysuron cyhoeddus ac er mwyn gallu canu’r anthem mewn gemau rhyngwladol gyda balchder.

Sut/Ble wnaethoch chi ddysgu Cymraeg?

Dw i’n dal i ddysgu Cymraeg ac yn astudio ar lefel Sylfaen ar hyn o bryd. Dw i wedi cael profiadau arbennig yn dysgu Cymraeg ac wedi mynychu cyrsiau yn Nant Gwrtheyrn a chael amser arbennig yno yn gwella fy iaith a dysgu am hanes a diwylliant Cymru. Dw i wedi pasio yr arholiad Mynediad gyda help fy nhiwtor arbennig Mairwen ac yn mynd i sefyll yr arholiad Sylfaen yn y dyfodol gyda help Rhian a Tomos.

Pryd a ble dych chi’n defnyddio eich Cymraeg?

Dw i’n defnyddio fy Nghymraeg wrth gyflwyno datganiadau etholiadol, mewn cyfarfodydd cabinet ac wrth gyfarch pobl bob dydd. Dw i’n gwneud pob ymdrech i ddefnyddio fy Nghymraeg ar bob achlysur. Dw i ddim yn berffaith ond dw i’n gwella wrth ymarfer.

Beth yw eich hoff beth ac eich cas beth?

Fy hoff beth yw chwaraeon yn enwedig pêl-droed a fy nghas beth yw anghydraddoldeb o unrhyw fath.

Beth dych chi’n mwynhau gwneud yn eich amser hamdden?

Dw i’n mwynhau chwarae pêl-droed, treulio amser gyda’r teulu a thrawsnewid adeiladau.

Eich hoff lyfr Cymraeg?

Ar hyn o bryd Cwrs Sylfaen fersiwn y De wrth gwrs!

Eich hoff eiriau Cymraeg?

Llongyfarchiadau, anghydraddoldeb.

Unrhyw gyngor i ddysgwyr Cymraeg?

Daliwch ati! Gwthiwch eich hun! Mae dysgu Cymraeg yn cymryd amser ond mae llawer o resymau dros ddysgu Cymraeg . Mae dysgu Cymraeg yn rhyddhad ar ddiwrnod prysur o waith ac yn rhoi cyfle i fi gyfathrebu gyda fy nghydweithwyr mewn cyd-destun gwahanol. Mae’n fuddiol i ddysgu Cymraeg yn y gweithle ac yn sicr yn creu ymdeimlad o fod yn un tîm. Dw i’n annog unrhyw un i barhau i ddysgu neu i’r rhai sy’n meddwl am ddysgu i fynd amdani!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair

Cyfeillgar, Teg a phenderfynol (i ddysgu Cymraeg)

Disgrifiad llun

Y Cynghorydd Cris Tomos a'r Prif Weithredwr Ian Westley (ar y dde) yn llongyfarch Meg a Ross McFarlane (a Griff) sef Dysgwyr y flwyddyn Sir Benfro 2018.