Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Ruth Jones

Holi Ruth Jones

Fel rhan o gyfres newydd ar S4C Iaith ar Daith, sy'n dechrau ar nos Sul 19 Ebrill am 8 o'r gloch, mae Ruth Jones yn un o bump seleb sy’n mynd ar daith i rannau gwahanol o Gymru gyda mentor adnabyddus sy’n gallu siarad Cymraeg i geisio dysgu Cymraeg, neu yn achos Ruth, i wella ei Chymraeg llafar. Beth am ddysgu mwy amdani? 

Beth yw dy gefndir di?

Dwi'n dod o Borthcawl. Es i i Ysgol Gyfun Porthcawl a wedyn i Brifysgol Warwick le nes i astudio Drama. Dw i’n un o bedwar o blant. Roedd fy mam yn feddyg a fy nhad yn gyfreithiwr. Nid oedd un o fy rhieni yn siarad Cymraeg, ar wahân i ambell air yma ac acw, ac emynau Cymraeg!

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Nid penderfyniad oedd e mewn gwirionedd. Dw i wedi bod yn ceisio parhau i'w dysgu ers o’n i yn yr ysgol, ond mewn ffordd eithaf anffurfiol. Aeth fy llys-blant i gyd i ysgolion Cymraeg, ac mae llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg. Mae yna rywbeth trist am fod yn Gymraes ond yn methu siarad yr iaith. Dywedodd fy chwaer wrthyf am Say Something In Welsh a do’n i ddim yn siwr a fyddwn i’n mwynhau’r math yna o beth. Ond mi wnes i roi cynnig arni ac ro’n i wrth fy modd. Rwy'n credu bod SSIW yn system addysgu mor wych. Rwy'n ei argymell i bawb!

Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg?

Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr tu hwnt i ddysgu Cymraeg, a gobeithio y gallaf barhau i ddysgu. Dw i wrth fy modd fy mod yn gallu gwrando ar Radio Cymru ac er nad ydw i yn deall bob gair, dw i’n deall llawer mwy erbyn hyn. Mae’r gerddoriaeth yn wych - felly mae hynny wedi bod yn fonws wrth ddysgu Cymraeg. Dw i wedi darganfod yr holl gerddoriaeth Gymraeg hyfryd sydd ar gael.

Beth oedd y peth gorau am eich her ‘Iaith ar Daith’?

Roedd yn un o'r profiadau gorau i mi ei gael erioed. Roedd yn gymaint o hwyl. Roedd yr wythnos yn llawn syrpréis, roedd y criw yn eithriadol, a dysgais i gymaint o Gymraeg. Dw i ddim yn siŵr pa un oedd fy hoff her - mi wnes i fwynhau bob un ohonyn nhw! Y mart defaid, creu cân gyda Gillian Elisa er mwyn dysgu sut i ddweud ‘Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi’ (y mae'n rhaid i mi ei chanu er mwyn cofio o hyd!), ac wrth gwrs, ymddangos ar ‘Pobol y Cwm’ a oedd yn frawychus, ond mor werth chweil. Dw i’n falch iawn mod i wedi cymryd rhan.

Beth yw dy hoff air Cymraeg?

Mae cymaint o eiriau dw i wrth fy modd â nhw - sbigoglys (spinach), datrys (to solve) a gwerthfawrogi (to appreciate) a ddysgais pan wnes i olygfa yn ‘Pobol y Cwm’. Dw i'n hoff iawn o lawer o ymadroddion Cymraeg hefyd, yn enwedig y rhai dw i wedi'u dysgu o Say Something in Welsh – er enghraifft, bach yn arafach (a little slower) ac ambyti mis (about a month) a llond llaw go iawn (a real handful).

Oes unrhyw gyngor gyda ti i ddysgwyr neu bobl sy’n ystyried dysgu Cymraeg?

Y peth pwysicaf i fi yw i barhau i siarad gyda siaradwyr Cymraeg, a dw i’n trio fy ngorau i wneud hynny. Er hynny, mae’n anodd iawn i newid yr iaith dych chi wedi arfer ei siarad gyda phobl, felly dw i’n ei chael hi’n anodd iawn newid i siarad Cymraeg gyda rhai ffrindiau dw i wedi siarad Saesneg gyda nhw erioed. Ond, mae’n bwysig siarad Cymraeg bob cyfle posib, a gwrando ar y radio a gwylio’r teledu, ac ymdrochi yn yr iaith arbennig a hyfryd hon. 

Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?

Dw i’n hoffi darllen – dw i’n darllen llawer o lyfrau! Dw i hefyd wedi dechrau chwarae’r piano eto ar ôl 35 mlynedd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Chwaer, merch, ffrind.