Holi Sandra de Pol
Eleni, bydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu.
Mae Sandra de Pol yn un o’r cyn-enillwyr ac yn y darn yma ’dyn ni’n dod i’w hadnabod yn well.
O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
Dw i’n dod o’r Ariannin yn wreiddiol. Ces i fy ngeni a fy magu mewn dinas debyg i Gaerdydd.
Pryd wnaethoch chi ddechrau dysgu Cymraeg?
Dechreuais i ddysgu Cymraeg mewn dosbarth ddwywaith yr wythnos yn 1997 ym Mhatagonia.
Ym mha Eisteddfod wnaethoch chi ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn?
Enillais i’r gystadleuaeth yn Eisteddfod Llanelli a’r Cylch yn y flwyddyn 2000.
Beth dych chi’n ei gofio am y noson wobrwyo?
Roedd hi’n noson emosiynol iawn. Cawson ni fwyd a gwylion ni’r ffilmiau byr oedd yn adrodd hanes ymgeiswyr y rownd derfynol (roedd y pump ohonon ni o tu allan i Gymru). Roeddwn yn synnu’n fawr mod i wedi cael y fraint o ennill y gystadleuaeth, mewn gwirionedd.
Pa wahaniaeth wnaeth y wobr i chi?
Er bod rhaid i mi ddychwelyd i’r Ariannin yn fuan ar ôl yr Eisteddfod, roedd ennill y wobr yn hynod o bwysig i mi yn bersonol ond hefyd roedd yn ddigwyddiad pwysig iawn i’r gymdeithas yn y Wladfa ac yng Nghymru.
Roedd yn dangos ei bod hi’n bosib dysgu Cymraeg yn llwyddiannus tu allan i Gymru. Dw i’n hynod o ddiolchgar hefyd fod cynllun Dysgu Cymraeg wedi ei sefydlu ym Mhatagonia yn 1997.
Erbyn hyn, mae llawer iawn ohonon ni, yn ddisgynyddion y Cymry gwreiddiol yn ogystal â’r rhai fel fi o gefndir Lladinaidd, wedi darganfod iaith y nefoedd ac yn ei defnyddio yn y Wladfa...ac yng Nghymru.
Beth oedd eich hanes yn siarad yr iaith ar ôl hynny?
Symudais i’r Hen Wlad (sef Cymru) yn 2002 i weithio mewn dwy ysgol uwchradd Gymraeg fel Cynorthwy-ydd Sbaeneg ac roedd staff yr ysgolion yn hapus iawn mod i’n gallu’r Gymraeg.
Ar ôl hynny symudais i o Lanelli i Gaerdydd ble cwrddais i â fy mhartner. Yn y cyfnod hwnnw, gwnes i gwrs Cymraeg Meistroli a sefyll yr arholiad Uwch.
Erbyn hyn, dw i wedi cymhwyso fel Cynorthwy-ydd Dosbarth gyda Mudiad Meithrin, wedi gweithio mewn sawl ysgol gynradd Gymraeg ac ysgolion uwchradd Cymraeg.
Dw i hefyd wedi cymhwyso fel Tiwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a dw i wedi bod yn gweithio fel tiwtor llawn amser ers deuddeg mlynedd.
Beth yw eich cyngor i bobl sydd wrthi’n dysgu Cymraeg?
Daliwch ati a siaradwch bob cyfle posib. Does dim ots os dych chi’n anghofio geiriau, neu dreigladau. Mae’n bwysig i chi ddefnyddio’r iaith dych chi wedi dysgu mewn dosbarth, wedi darllen neu glywed ar y teledu. Siaradwch a mwynhewch sgwrsio yn y Gymraeg.
Beth, yn eich barn chi, yw’r elfen bwysicaf wrth wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn?
Mae’n anodd iawn ateb y cwestiwn yma. Dw i wedi beirniadu’r gystadleuaeth unwaith a doedd hi ddim yn hawdd o gwbl.
Ond erbyn hyn, dw i’n credu bod y pwyslais ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’n bwysig iawn gweld a chlywed y Gymraeg ymhob cyd-destun ac ymfalchïo ei bod yn iaith fyw.
Geirfa
Ymgeisgwyr – applicants
Braint – privilege
Y Wladfa – the Welsh settlement in Patagonia
Disgynyddion – descendants
Cynorthwy-ydd – assistant
Cymhwyso – qualify
Beirniadu – judge
Cyd-destun – context
Ymfalchïo – to be proud