Holi Sara
Yma, ’dyn ni’n holi Sara Maynard, enillydd Gwobr Goffa Basil Davies, a roddir i’r person sy’n cael y marc uchaf yn arholiadau dysgu Cymraeg CBAC bob blwyddyn. Mae Sara yn defnyddio ei Chymraeg yn y gwaith bob dydd gyda Phrifysgol De Cymru.
Sut dych chi’n defnyddio eich Cymraeg yn eich gwaith?
Ers 2017, fi ydy Swyddog Iaith Gymraeg Prifysgol De Cymru a hyd at ddiwedd y flwyddyn, dw i’n Bennaeth y Gymraeg. Fel Swyddog Iaith, dw i’n rheoli’r tîm cyfieithu ac fel Pennaeth y Gymraeg, dw i’n gweithio gyda staff academaidd y brifysgol i ddatblygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Oedd gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i chi?
Mae’r Gymraeg wastad wedi bod yn bwysig i fi a dw i’n falch fy mod i’n Gymraes. Pan ddaeth y cyfle i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, es i amdani. Roedd y swydd hefyd yn rhan amser ac yn siwtio fy amgylchiadau personol gyda’r plant mor ifanc.
Oes rhywun arall yn siarad Cymraeg yn y teulu?
Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ac mae fy ngŵr wedi dysgu Cymraeg. Mae e’n dal i fynychu dosbarth dysgu Cymraeg rhithiol bob wythnos. Cymraeg ydy iaith yr aelwyd yn bennaf.
Dych chi wedi ennill Gwobr Goffa Basil Davies – sut dych chi’n teimlo?
Mae’n fraint i ennill y wobr. Roedd Basil Davies yn teimlo’n angerddol iawn dros y Gymraeg ac yn estyn croeso i bwy bynnag oedd eisiau dysgu’r iaith.
Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Ewch amdani! Peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau - dyna sut mae pawb yn dysgu. Mae’r dosbarthiadau yn hwyl, dw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau a ’dyn ni’n cymdeithasu tu fas i’r dosbarth.
Basil Davies
Tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) oedd Basil Davies. Dysgodd e’r Gymraeg i gannoedd o bobl yn y cymoedd ar gyrsiau dwys y Brifysgol. Gwnaeth e hefyd addasu llawer o lyfrau i ddysgwyr, roedd e’n diwtor ar y rhaglen radio boblogaidd ‘Catchphrase’ ar Radio Wales, a Basil oedd Cadeirydd y Pwyllgor arholiadau Dysgu Cymraeg. Basai’n hapus iawn bod rhywun o’i brifysgol e wedi ennill y wobr.