Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Sara

Holi Sara

Yma, ’dyn ni’n holi Sara Maynard, enillydd Gwobr Goffa Basil Davies, a roddir i’r person sy’n cael y marc uchaf yn arholiadau dysgu Cymraeg CBAC bob blwyddyn.  Mae Sara yn defnyddio ei Chymraeg yn y gwaith bob dydd gyda Phrifysgol De Cymru.

Sut dych chi’n defnyddio eich Cymraeg yn eich gwaith?

Ers 2017, fi ydy Swyddog Iaith Gymraeg Prifysgol De Cymru a hyd at ddiwedd y flwyddyn, dw i’n Bennaeth y Gymraeg.  Fel Swyddog Iaith, dw i’n rheoli’r tîm cyfieithu ac fel Pennaeth y Gymraeg, dw i’n gweithio gyda staff academaidd y brifysgol i ddatblygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Oedd gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig i chi?

Mae’r Gymraeg wastad wedi bod yn bwysig i fi a dw i’n falch fy mod i’n Gymraes.  Pan ddaeth y cyfle i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg, es i amdani.  Roedd y swydd hefyd yn rhan amser ac yn siwtio fy amgylchiadau personol gyda’r plant mor ifanc.

Oes rhywun arall yn siarad Cymraeg yn y teulu?

Mae fy mhlant yn siarad Cymraeg ac mae fy ngŵr wedi dysgu Cymraeg.  Mae e’n dal i fynychu dosbarth dysgu Cymraeg rhithiol bob wythnos.  Cymraeg ydy iaith yr aelwyd yn bennaf.

Dych chi wedi ennill Gwobr Goffa Basil Davies – sut dych chi’n teimlo?

Mae’n fraint i ennill y wobr.  Roedd Basil Davies yn teimlo’n angerddol iawn dros y Gymraeg ac yn estyn croeso i bwy bynnag oedd eisiau dysgu’r iaith. 

Oes gyda chi unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?

Ewch amdani!  Peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau - dyna sut mae pawb yn dysgu.   Mae’r dosbarthiadau yn hwyl, dw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau a ’dyn ni’n cymdeithasu tu fas i’r dosbarth.

Basil Davies

Tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru erbyn hyn) oedd Basil Davies. Dysgodd e’r Gymraeg i gannoedd o bobl yn y cymoedd ar gyrsiau dwys y Brifysgol. Gwnaeth e hefyd addasu llawer o lyfrau i ddysgwyr, roedd e’n diwtor ar y rhaglen radio boblogaidd ‘Catchphrase’ ar Radio Wales, a Basil oedd Cadeirydd y Pwyllgor arholiadau Dysgu Cymraeg. Basai’n hapus iawn bod rhywun o’i brifysgol e wedi ennill y wobr.