Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Holi Tadanori

Holi Tadanori

Cafodd Tadanori Ukai ei fagu yn Japan ac Indonesia.  Symudodd i fyw i Birmingham yn 2004. 

Yno, gwelodd gwrs Dysgu Cymraeg gyda Chanolfan Iaith Brasshouse ac mae wedi parhau i ddysgu Cymraeg ers hynny.

Bellach mae’n byw yn Abertawe ac yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg Uwch gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.

Cawson ni air gyda Tad am ei daith yn Dysgu Cymraeg.

Pryd gwnest ti ddechrau dysgu Cymraeg?

Gwnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn Birmingham yn 2012.

Doeddwn i ddim yn gwybod dim am yr iaith Gymraeg nes i fi symud i’r Deyrnas Unedig a doeddwn i ddim yn siarad Cymraeg o gwbl cyn i fi ddechrau y cwrs yng Nghanolfan Iaith Brasshouse, Birmingham.

Mae hynny’n teimlo fel amser maith yn ôl!

Ble roeddet ti’n cael ymarfer dy Gymraeg pan oeddet ti’n byw yn Birmingham?

Ro’n i’n arfer teithio i bob rhan o Loegr a Chymru i gael siarad Cymraeg!

Ro’n i’n mynd i grŵp Cymraeg yn Derby unwaith y mis – ro’n i hefyd yn mynd i grwpiau Cymraeg yn Solihull, Llundain a Birmingham.

Ro’n i’n teithio i Sadwrn Siarad yng Nghaerdydd ambell waith!

Dw i’n byw yn Abertawe ers 2019 er mwyn cael mwy o gyfle i siarad Cymraeg heb deithio’n bell.

Beth wyt ti’n hoffi am fyw yng Nghymru?

Dw i’n mwynhau gwrando ar BBC Radio Cymru a gwylio S4C.  Dw i hefyd yn hoffi cerddoriaeth Gymraeg a chael mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Dw i’n meddwl fod popeth am y Gymraeg yn ddiddorol iawn.

Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg i ti?

Dw i’n meddwl fod dysgu iaith yn gallu bod yn heriol.

Ond dyw hyn ddim yn broblem achos dw i’n mwynhau her a hynny sy’n bwysig.

Beth wyt ti’n gobeithio ei wneud yn y dyfodol?

Dw i’n bwriadu dal ati i’r dyfodol a pharhau i ddysgu Cymraeg.

Dw i hefyd yn edrych ymlaen at fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf dros yr haf.