Holi Tracy Chudley
Mae Tracy yn byw yn yr Alban, ac aeth hi ar benwythnos Dysgu Cymraeg yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn, ger y Bala. Dyma ychydig o’i hanes:
O ble dych chi’n dod?
Dw i’n dod o Kent yn wreiddiol, ond nawr dw i’n byw yn y Black Isle, ger Inverness. Ro’n i’n hoffi ymweld â’r ardal fel teulu, felly wnaethon ni benderfynu symud yma yn ystod Covid.
Pam dych chi’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n hoffi dysgu ieithoedd. Yn y gorffennol, dw i wedi dysgu Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg, felly gwnes i benderfynu rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg. Mae gen i ffrind sy’n byw yn Aberteifi, ac mae fy mab yn byw yn Abertawe, ond does gen i ddim cysylltiadau eraill â Chymru.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Cyfarfod llawer o ddysgwyr eraill a’r holl gefnogaeth sy ar gael drwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Sut aeth y penwythnos yng Nglan-llyn?
Roedd e’n wych! Gwnes i fwynhau siarad gyda’r dysgwyr eraill a chymryd rhan yn y gweithgareddau. Adre, dw i’n dysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gwent, ac yn ymuno â’r Sadwrn Siarad yn rhithiol, felly roedd siarad Cymraeg wyneb yn wyneb yn brofiad gwerthfawr. Dw i’n edrych ymlaen at fynd yn ôl flwyddyn nesaf.
Unrhyw gyngor i bobl eraill sy’n dysgu Cymraeg?
Ewch i sesiynau anffurfiol, er mwyn cefnogi’r dysgu yn y dosbarth. Cofiwch hefyd ymarfer cymaint â phosibl, ac ewch ar gwrs preswyl er mwyn rhoi hwb ychwanegol i chi!
Beth sy nesa i chi gyda dysgu Cymraeg?
Dw i’n gobeithio dal ati i ddysgu’r iaith, a mynd i Gymru eto.