Holi Vince
Disgrifiad llun: Vince, ail o'r chwith, ar gwrs Dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin
Yn wreiddiol o Ddyfnaint, mae Vince bellach yn byw ac yn gweithio yn Sir Gâr. Ym mis Gorffennaf, aeth Vince ar gwrs Dysgu Cymraeg i bobl ifanc yng Nghaerfyrddin. Dyma ei hanes...
Pwy wyt ti ac o ble wyt ti’n dod?
Fy enw i yw Vince a dw i’n dod o Ddyfnaint.
Wyt ti’n astudio neu’n gweithio? Beth wyt ti’n ei wneud?
Dw i’n gweithio i Gyngor Sir Gâr fel Hyfforddai Graddedig. Dw i’n edrych ar ddata ac yn creu adroddiadau i ddangos ein perfformiad a gwella ein gwasanaeth.
Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Mae gen i wreiddiau Cernywaidd a dw i wedi astudio Cernyweg yn y gorffennol. Dw i’n dwlu ar ieithoedd Celtaidd a ro’n i eisiau dysgu Cymraeg pe bai’r cyfle’n codi. Dechreuais i chwe mis ar ôl penderfynu aros yng Nghymru i fyw’n hirdymor.
Ers pryd wyt ti wedi bod yn dysgu Cymraeg? Wyt ti’n dilyn cwrs?
Dw i’n dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner a dw i newydd sefyll fy arholiad Sylfaen. Bydda i’n dechrau Cwrs Canolradd ym mis Medi ac yn mynd i Nant Gwrtheyrn ym mis Chwefror.
Beth oedd y peth gorau am y cwrs Dysgu Cymraeg yng Nghaerfyrddin?
Roedd y cwrs yng Nghaerfyrddin yn fendigedig! Y peth gorau oedd cwrdd â phobl ifanc eraill sy’n dysgu Cymraeg hefyd. Cenhedlaeth Z am byth!
Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Yn ffodus, dw i’n clywed llawer o Gymraeg yn y swyddfa ac mae’r rhan fwya o fy nghydweithwyr yn gallu siarad Cymraeg. Mae un ohonyn nhw, Nia, yn rhannu’r eirfa leol gyda fi ac yn fy helpu i gyda acen yr ardal. Hoffwn i siarad fel rhywun o Gwm Gwendraeth.
Beth yw dy gyngor i bobl ifanc eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Paid â gorfeddwl! Gofynna i dy hun “Beth ydw i’n hoffi ei wneud yn fy amser sbâr?” a gwna hynny yn Gymraeg. Dych chi’n hoffi llyfrau, cerddoriaeth, neu deledu? Maen nhw i gyd ar gael yn Gymraeg. Nid iaith y dosbarth yn unig yw’r Gymraeg.
Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Mae’n agor y drws i ddiwylliant Cymru. Pan dych chi’n ddwyieithog, mae hanes, enwau lleoedd, a’r straeon unigryw yn dod yn fwy dealladwy. Mae cyfleoedd i chi gyfrannu at y gymuned a’r wlad.
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Rhiwbob yw fy hoff air Cymraeg, yn enwedig yn y pâr rhiwbob a chwstard!