Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hyder

Hyder

Dyma addasiad o erthygl Saesneg a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y Western Mail ar ddydd Mercher, 27 Chwefror 2019

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n sôn am bwysigrwydd hyder wrth ddysgu Cymraeg.

Codi hyder er mwyn defnyddio a mwynhau eich Cymraeg

Hyder yw un o’r pethau pwysicaf wrth ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn.

Mae angen hyder yn y lle cyntaf i gerdded trwy ddrws yr ystafell ddosbarth.  Gall fod yn amser hir ers i’n dysgwyr adael yr ysgol neu’r coleg ac efallai eu bod nhw’n teimlo’n nerfus am y syniad o ailafael ym myd addysg. 

Gall pobl amau eu gallu eu hun a meddwl bod y Gymraeg y tu hwnt iddynt – bryd hynny, byddwn yn eu hatgoffa bod ein cyrsiau Cymraeg yn gyrsiau anffurfiol, hwyliog gyda’r pwyslais ar fwynhau siarad yr iaith.

Ddechrau’r mis, fe ddaeth dros 50 o deuluoedd ynghyd i fwynhau cwrs Cymraeg i’r Teulu yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog.  Trefnwyd gweithdai i’r oedolion oedd yn dysgu yn ogystal â gweithgareddau i’w plant.  Roedd y pwyslais ar godi hyder fel bod y teuluoedd yn siarad mwy o Gymraeg gyda’i gilydd yn y cartref, a hefyd yn ddigon hyderus i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol.

Yn ystod y gwanwyn, bydd nifer o gyfleoedd eraill i’n dysgwyr ymarfer a defnyddio’u Cymraeg, a thrwy hynny magu hyder.  Mae cyfres o gyfleoedd i fynd am dro wedi eu trefnu mewn rhannau gwahanol o Gymru, a bydd gŵyl Ar Lafar, sy’n cael ei threfnu ar y cyd ag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, hefyd yn cynnig cyfle i ddysgwyr fwynhau eu Cymraeg.  Caiff yr ŵyl ei chynnal eleni yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae’r iaith Gymraeg o’n cwmpas o ddydd i ddydd – mewn arwyddion, enwau llefydd, ysgolion, y cyfryngau a hysbysebion mewn llyfrgelloedd, meddygfeydd ayb – ac felly mae pobl yn gyfarwydd â’r iaith, bron yn ddiarwybod iddynt.  Yn aml maen nhw’n gwybod mwy nag y maen nhw’n credu.

Mae dod â’n dysgwyr at y drws, i ddechrau cwrs, yn un peth, ond mae eu hannog i barhau i ddysgu a symud i lefelau uwch hefyd yn hollbwysig.

Yn ddiweddar, cafodd ein cynllun newydd ‘Siarad’ ei lansio.  Cynllun gwirfoddol yw hwn lle caiff dysgwyr gweddol rugl sydd ar safon Canolradd neu Uwch gyfle i gyfarfod a chymdeithasu gyda siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd.  Mae’r cynllun eisoes wedi ennyn ymateb cadarnhaol gan bawb a’r teimlad ydy bod hyder dysgwyr a’r siaradwyr Cymraeg yn codi.  Mae angen cefnogi siaradwyr Cymraeg i gyfathrebu yn hyderus gyda dysgwyr, a ’dyn ni’n gobeithio datblygu hyn i’r dyfodol.

Dros y misoedd nesaf, bydd amryw o weithgareddau cymdeithasol a dysgu anffurfiol yn cael eu cynnal mewn cymunedau ar draws Cymru, yn ogystal â chyrsiau dwys dros yr haf cyn i’r cyrsiau rheolaidd ail ddechrau ym mis Medi.  Yn ystod y cyfnod yma bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar y thema ‘hyder’ – ar godi hyder er mwyn dechrau dysgu ac er mwyn dal ati i ddysgu, siarad a mwynhau’r Gymraeg.

Diwedd

 

I ddod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg, neu gyfleoedd i ymarfer yr iaith, ewch i dysgucymraeg.cymru. Dechreuwch gyda’n cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim yma.