Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Hywel Dda y corff cyntaf i gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg Gwaith ar-lein

Hywel Dda y corff cyntaf i gofrestru ar gyfer cwrs Cymraeg Gwaith ar-lein

Disgrifiad llun: Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore, a Chadeirydd y Bwrdd, Bernardine Rees OBE

Aelodau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw’r bobl gyntaf yng Nghymru i gofrestru ar gyfer cwrs iaith Gymraeg ar-lein newydd, rhan o raglen ddysgu arloesol o’r enw Cymraeg Gwaith.

Nod Cymraeg Gwaith yw rhoi cyfleoedd newydd i weithwyr ddysgu a gwella eu Cymraeg yn y gweithle. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cyrsiau dwys hyd at dri mis a chyrsiau preswyl arbenigol pum niwrnod.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am gyflwyno Cymraeg Gwaith, ar ôl derbyn buddsoddiad ychwanegol o £3m gan Lywodraeth Cymru i wella a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r rhaglen, sydd wedi'i hariannu'n llawn, yn cynnig cyfleoedd i weithwyr mewn gwahanol sectorau wella eu sgiliau iaith ac mae’n cefnogi dysgwyr ar wahanol lefelau, p’un ai ydynt yn ddechreuwyr neu'n siaradwyr mwy profiadol. Mae pwyslais ar wella hyder pobl sydd eisoes yn siarad Cymraeg ond sy’n teimlo'n ansicr am ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun gwaith.  Mae gwasanaeth gwybodaeth i gyflogwyr ar gael hefyd, lle rhoddir cyngor ar asesu sgiliau yn ogystal â chynllun ôl-ofal.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae ein staff yn darparu gofal iechyd i dros 384,000 o bobl o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac mae angen gwasanaethau Cymraeg yn yr ardaloedd hyn. Mae’r rhaglen newydd hon yn gyfle cyffrous i ni wella sgiliau Cymraeg ein gweithwyr fel y gallwn gynnig gwasanaethau dwyieithog i fwy o’n cleifion. Rydym yn hynod falch o arwain y ffordd a byddwn hefyd yn hyrwyddo’r cyrsiau eraill sydd ar gael i weithwyr ar draws y sefydliadau.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae hwn yn gyfle newydd i unigolion sy'n awyddus i ddysgu neu i wella eu Cymraeg i wneud hynny gyda chefnogaeth eu cyflogwyr.  Mae amrywiaeth o gyrsiau ar gael, sydd â’r nod o hwyluso a chynyddu’r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.

“Rydym wrth ein bodd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi manteisio ar y cyfle hwn ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda nhw dros y misoedd nesaf wrth iddynt gefnogi datblygiad sgiliau iaith eu gweithwyr.”

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth cyslltwch â:

Siân Jones, Equinox Communications ar 07525 261600 (Cymraeg)

Megan Evans, Equinox Communications ar 029 2076 4100 (di-Gymraeg)

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyfrifol am roi arweiniad strategol i’r sector Cymraeg i Oedolion.  Mae’r rôl hon yn cynnwys datblygu a darparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn y gweithle, gan gynnwys yr 80 o gyrff sy'n ddarostyngedig i’r ddeddfwriaeth safonau iaith.

  • Mae’r rhaglen Cymraeg Gwaith yn cynnwys elfennau gwahanol:

  • Gwybodaeth a chyngor i gyflogwyr.
  • Cyrsiau croesawu/derbynfa ar-lein (dysgu cyfarchion ac ymadroddion sylfaenol Cymraeg i ddysgwyr).
  • Cyrsiau dwys hyd at dri mis.
  • Cyrsiau preswyl i wella hyder ac i ddarparu terminoleg arbenigol.