Y cyflwynydd teledu a radio, Carol Vorderman, yw’r seleb cyntaf i roi tro ar ddysgu’r Gymraeg yn ‘Iaith ar Daith’, cyfres adloniant newydd, sy’n dechrau ddydd Sul, 19 Ebrill am 8.00pm ar S4C. Dyma sgwrs gyda Carol:
O ble rwyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Ces i fy magu mewn dwy dref - Prestatyn trwy gydol y 1960au mewn cartref rhiant sengl, ac yna Dinbych yn ystod y 1970au pan briododd fy mam fy llysdad (ro’n i wrth fy modd ag e). Doedd Prestatyn ddim yn dref Gymreigedd iawn ond roedd lot o Gymraeg i’w chlywed yn Ninbych.
Roedd fy mam arfer siarad Cymraeg pan yn blentyn, ond fe anghofiodd hi bob dim a doedd hi ddim yn gefnogol iawn o’r iaith. Roedd fy Nhaid (oedd wedi gwisgo ‘Welsh Not’ pan oedd e’n blentyn) a fy Wncl Glyn yn siarad Cymraeg, ond doedd neb yn siarad yr iaith gyda fi. Ro’n i’n clywed rhai geiriau - tipyn bach, cariad, sut wyt ti? – ac ro’n i’n gallu cyfrif i 10, ond dyna’r cyfan nes i fi fynd i’r ysgol gyfun.
Es i i’r ysgol gyfun Babyddol yn Rhyl. Fe ges i radd A yn fy Lefel O Cymraeg yn 1976, ond roedd yn ffurfiol iawn – doedd dim sgwrsio. Fe newidiodd fy athro mathemateg anhygoel, Mr Palmer Parri, fy mywyd.
Mae’n drueni nad oedd mwy o ganolbwyntio ar ein hiaith bryd hynny – mae agweddau at y Gymraeg wedi’u trawsnewid.
Pan wnes i raddio o Gaergrawnt ym 1981, fe adawodd fy mam fy llysdad yn Nibynch, a dyna pryd gwnes i ffarwelio â Chymru.
Pam ro't ti eisiau dysgu Cymraeg?
Dw i wedi bod yn cyflwyno fy rhaglen ar BBC Radio Wales (Dydd Sadwrn, 11.30am-1.30pm) ers mis Mehefin diwethaf a dyma fy hoff swydd yn y byd. Mae Owain (mentor Carol ar y rhaglen, Owain Wyn Evans) yn aml yn ymuno â fi a dan ni’n cael lot o hwyl a sbri. Dw i wrth fy modd yn chwerthin.
Es i i’r Sioe Frenhinol y llynedd ar gyfer Radio Wales, ac ro’n i fod i ddychwelyd eto eleni. Ro’n i eisiau cael y cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg a dweud ambell jôc wael yn Gymraeg!
Hefyd, dw i’n symud yn ôl i Gymru – mae gen i dŷ yn Sir Benfro a dw i’n symud i Gaerdydd yn hwyrach eleni o Fryste.
Dw i wedi cael cymaint o groeso – croeso Cymreig go iawn gyda chymaint o gariad a chwerthin. Dw i wedi bod yn gwrando ar y gân enwog ‘We’ll keep a welcome in the hillside’ yn ddiweddar a dw i’n teimlo bod pob gair yn wir!
Mae’r ymateb i fi’n dysgu Cymraeg wedi bod yn anhygoel – mae pawb mor gefnogol, diolch i bob un. Dw i’n teimlo go iawn bod gen i gyfrifoldeb i ddod adre a gwneud be dw i’n gallu i ddangos fy Nghymreictod. Mae siarad ein hiaith yn rhan o hynny.
Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg?
Fe ddysgais i gymaint yn ystod yr wythnos wnaethon ni ffilmio’r rhaglen. Dyma’r tro cyntaf i fi gael fy nhrochi yn yr iaith, ac ro’n i wrth fy modd. Ro’n i’n dechrau meddwl yn Gymraeg a hyd yn oed breuddwydio yn Gymraeg!
Dw i’n bwriadu treulio amser gyda fy nghyfnither, Siân, sy ar yr un lefel â fi ac sy hefyd eisiau dod yn siaradwr rhugl. Felly dw i’n mynd i aros gyda hi, a chymysgu gyda siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys Aran Jones, sy wedi ein harwain ar y rhaglen. Gwnes i hefyd gwrdd â fy hen athro Cymraeg, John Kerfoot Jones, tra’n ffilmio ac mae e’n hapus i helpu hefyd – dyna ardderchog ontife?!
Beth oedd y peth gorau am dy sialens ‘Iaith ar Daith’?
Roedd cymaint o bethau – un o fy hoff sialensiau oedd rhoi gwers fathemateg i griw o blant saith mlwydd oed yn Ysgol y Llys, ysgol Gymraeg newydd ym Mhrestatyn. Dywedodd y pennaeth wrtha i bod 92% o’r plant yn dod o gartrefi lle’r oedd Saesneg yn unig yn cael ei siarad. Rhieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ddysgu Cymraeg! Mae cymaint wedi newid mewn tair neu bedair cenhedlaeth. Roedd fy nhaid yn ffarmwr denant yn Fferm y Llys, y mae’r ysgol wedi’i henwi ar ei hôl hi, a chafodd e ei orfodi i wisgo’r ‘Welsh Not’ yn yr ysgol i roi stop arno’n siarad yr iaith. Erbyn hyn, diolch i addysg Gymraeg, mae’r Gymraeg yn rhywbeth enfawr, cynhwysol, modern sy’n achos dathlu.
Beth yw dy hoff eiriau Cymraeg?
Dros ben llestri; Snogiau Mawr; a, Ti newydd wasgu fy motwm hapus (dw i’n aml yn dweud hyn yn Saesneg!)
Oes unrhyw gyngor gyda ti i ddysgwyr neu bobl sy’n ystyried dysgu Cymraeg?
Gwnewch y gorau o’r adnoddau sy ar gael – mae lot fawr o help ar gyfer pobl sy eisiau dysgu. Hefyd, peidiwch poeni gormod am y treigladau a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwrando ar y Gymraeg, ar y teledu a’r radio, ac yn siarad cymaint ag sy’n bosibl. Peidiwch poeni am ddweud pethau anghywir – peidiwch byth ag ymddiheuro, mae pob un cam yn rhywbeth i’w ddathlu.
Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff bethau yw chwerthin, dysgu a chanu. Does gen i ddim cas beth achos dw i ddim yn caniatáu i bethau drwg ddod i’m bywyd. Mae’n ffordd o fyw i fi – os oes rhywbeth negyddol yn codi, dw i’n rhoi stop arno fe. Dw i dim ond yn gallu bod yn hapus!
Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?
Dw i’n gwneud lot fawr o ymarfer corff, hedfan fy awyren a heicio. Yn fwy na dim, dw i’n caru bod gyda phobl sy’n gwneud i fi chwerthin.