Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Carol Vorderman yn mwynhau 'Iaith ar Daith'

Carol Vorderman yn mwynhau 'Iaith ar Daith'

Y cyflwynydd teledu a radio, Carol Vorderman, yw’r seleb cyntaf i roi tro ar ddysgu’r Gymraeg yn ‘Iaith ar Daith’, cyfres adloniant newydd, sy’n dechrau ddydd Sul, 19 Ebrill am 8.00pm ar S4C.  Dyma sgwrs gyda Carol:

O ble rwyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?

Ces i fy magu mewn dwy dref - Prestatyn trwy gydol y 1960au mewn cartref rhiant sengl, ac yna Dinbych yn ystod y 1970au pan briododd fy mam fy llysdad (ro’n i wrth fy modd ag e). Doedd Prestatyn ddim yn dref Gymreigedd iawn ond roedd lot o Gymraeg i’w chlywed yn Ninbych.

Roedd fy mam arfer siarad Cymraeg pan yn blentyn, ond fe anghofiodd hi bob dim a doedd hi ddim yn gefnogol iawn o’r iaith.  Roedd fy Nhaid (oedd wedi gwisgo ‘Welsh Not’ pan oedd e’n blentyn) a fy Wncl Glyn yn siarad Cymraeg, ond doedd neb yn siarad yr iaith gyda fi.  Ro’n i’n clywed rhai geiriau - tipyn bach, cariad, sut wyt ti? – ac ro’n i’n gallu cyfrif i 10, ond dyna’r cyfan nes i fi fynd i’r ysgol gyfun.

Es i i’r ysgol gyfun Babyddol yn Rhyl.  Fe ges i radd A yn fy Lefel O Cymraeg yn 1976, ond roedd yn ffurfiol iawn – doedd dim sgwrsio.  Fe newidiodd fy athro mathemateg anhygoel, Mr Palmer Parri, fy mywyd.

Mae’n drueni nad oedd mwy o ganolbwyntio ar ein hiaith bryd hynny – mae agweddau at y Gymraeg wedi’u trawsnewid.

Pan wnes i raddio o Gaergrawnt ym 1981, fe adawodd fy mam fy llysdad yn Nibynch, a dyna pryd gwnes i ffarwelio â Chymru. 

Pam ro't ti eisiau dysgu Cymraeg?

Dw i wedi bod yn cyflwyno fy rhaglen ar BBC Radio Wales (Dydd Sadwrn, 11.30am-1.30pm) ers mis Mehefin diwethaf a dyma fy hoff swydd yn y byd.  Mae Owain (mentor Carol ar y rhaglen, Owain Wyn Evans) yn aml yn ymuno â fi a dan ni’n cael lot o hwyl a sbri.  Dw i wrth fy modd yn chwerthin.

Es i i’r Sioe Frenhinol y llynedd ar gyfer Radio Wales, ac ro’n i fod i ddychwelyd eto eleni.  Ro’n i eisiau cael y cyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg a dweud ambell jôc wael yn Gymraeg!

Hefyd, dw i’n symud yn ôl i Gymru – mae gen i dŷ yn Sir Benfro a dw i’n symud i Gaerdydd yn hwyrach eleni o Fryste. 

Dw i wedi cael cymaint o groeso – croeso Cymreig go iawn gyda chymaint o gariad a chwerthin.  Dw i wedi bod yn gwrando ar y gân enwog ‘We’ll keep a welcome in the hillside’ yn ddiweddar a dw i’n teimlo bod pob gair yn wir!

Mae’r ymateb i fi’n dysgu Cymraeg wedi bod yn anhygoel – mae pawb mor gefnogol, diolch i bob un.  Dw i’n teimlo go iawn bod gen i gyfrifoldeb i ddod adre a gwneud be dw i’n gallu i ddangos fy Nghymreictod.  Mae siarad ein hiaith yn rhan o hynny.


Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg?

Fe ddysgais i gymaint yn ystod yr wythnos wnaethon ni ffilmio’r rhaglen.  Dyma’r tro cyntaf i fi gael fy nhrochi yn yr iaith, ac ro’n i wrth fy modd.  Ro’n i’n dechrau meddwl yn Gymraeg a hyd yn oed breuddwydio yn Gymraeg!

Dw i’n bwriadu treulio amser gyda fy nghyfnither, Siân, sy ar yr un lefel â fi ac sy hefyd eisiau dod yn siaradwr rhugl.  Felly dw i’n mynd i aros gyda hi, a chymysgu gyda siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys Aran Jones, sy wedi ein harwain ar y rhaglen.  Gwnes i hefyd gwrdd â fy hen athro Cymraeg, John Kerfoot Jones, tra’n ffilmio ac mae e’n hapus i helpu hefyd – dyna ardderchog ontife?!

 

Beth oedd y peth gorau am dy sialens ‘Iaith ar Daith’?

Roedd cymaint o bethau – un o fy hoff sialensiau oedd rhoi gwers fathemateg i griw o blant saith mlwydd oed yn Ysgol y Llys, ysgol Gymraeg newydd ym Mhrestatyn.  Dywedodd y pennaeth wrtha i bod 92% o’r plant yn dod o gartrefi lle’r oedd Saesneg yn unig yn cael ei siarad.  Rhieni di-Gymraeg yn anfon eu plant i ddysgu Cymraeg!  Mae cymaint wedi newid mewn tair neu bedair cenhedlaeth.  Roedd fy nhaid yn ffarmwr denant yn Fferm y Llys, y mae’r ysgol wedi’i henwi ar ei hôl hi, a chafodd e ei orfodi i wisgo’r ‘Welsh Not’ yn yr ysgol i roi stop arno’n siarad yr iaith.  Erbyn hyn, diolch i addysg Gymraeg, mae’r Gymraeg yn rhywbeth enfawr, cynhwysol, modern sy’n achos dathlu.


Beth yw dy hoff eiriau Cymraeg?

Dros ben llestri; Snogiau Mawr; a, Ti newydd wasgu fy motwm hapus (dw i’n aml yn dweud hyn yn Saesneg!)

Oes unrhyw gyngor gyda ti i ddysgwyr neu bobl sy’n ystyried dysgu Cymraeg?

Gwnewch y gorau o’r adnoddau sy ar gael – mae lot fawr o help ar gyfer pobl sy eisiau dysgu.  Hefyd, peidiwch poeni gormod am y treigladau a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwrando ar y Gymraeg, ar y teledu a’r radio, ac yn siarad cymaint ag sy’n bosibl.  Peidiwch poeni am ddweud pethau anghywir – peidiwch byth ag ymddiheuro, mae pob un cam yn rhywbeth i’w ddathlu.

 

Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?

Fy hoff bethau yw chwerthin, dysgu a chanu.  Does gen i ddim cas beth achos dw i ddim yn caniatáu i bethau drwg ddod i’m bywyd.  Mae’n ffordd o fyw i fi – os oes rhywbeth negyddol yn codi, dw i’n rhoi stop arno fe.  Dw i dim ond yn gallu bod yn hapus!

Beth wyt ti’n mwynhau ei wneud yn dy amser hamdden?

Dw i’n gwneud lot fawr o ymarfer corff, hedfan fy awyren a heicio.  Yn fwy na dim, dw i’n caru bod gyda phobl sy’n gwneud i fi chwerthin.

Carol Vorderman