Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Iaith Pobl Ifanc – galw am eiriau

Iaith Pobl Ifanc – galw am eiriau

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Chomisiynydd y Gymraeg yn galw ar bobl ifanc i rannu’r geiriau Cymraeg anffurfiol maen nhw’n eu defnyddio gyda’i gilydd, fel rhan o raglen y Ganolfan i ddarparu gwasanaethau Dysgu Cymraeg am ddim i bobl 16-25 oed. 

Gall y geiriau hynny amrywio o ardal i ardal ac o fewn grwpiau cymdeithasol, ac mae ‘hercan’ (cael torri gwallt), ‘sgiliau moethus’ (sgiliau da) a ‘bifish’ (moody) ymhlith y geiriau sydd eisoes wedi dod i’r fei. 

Y nod yw rhannu’r geiriau a’r ymadroddion mewn gwersi ac adnoddau Dysgu Cymraeg penodol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed. 

Ers 2022, mae hyfforddiant Dysgu Cymraeg am ddim i’r gynulleidfa yma.  Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb a dosbarthiadau rhithiol, cynlluniau peilot mewn ysgolion a cholegau Addysg Bellach, a mynediad at adnoddau digidol megis SaySomethinginWelsh. 

Gyda phwyslais y Ganolfan ar siarad a mwynhau’r iaith, mae ’na awydd i drosglwyddo’r iaith bob dydd mae pobl ifanc yn ei defnyddio gyda’u cyfoedion.  

Dr Dylan Foster Evans yw pennaeth Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys y gwahanol fathau o Gymraeg a ddefnyddir yn y Gymru gyfoes.

Meddai Dr Foster Evans, “Dyw iaith byth yn aros yn ei hunfan. Felly mae'n hanfodol ein bod yn talu sylw i sut mae'r Gymraeg yn cael ei siarad gan y cenedlaethau iau.

"Bydd gweld yr amrywiaeth o eiriau ac ymadroddion a fydd yn cael eu casglu yn ystod yr ymgyrch hon yn hynod ddiddorol. Mae'n siŵr y gwelwn gyfuniad o ymadroddion newydd a rhai sy'n fwy cyfarwydd ond yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd arbennig gan bobl ifanc.

"Rwy'n edrych ymlaen yn arw at weld y rhai na fydd gennyf syniad o'u hystyr!”

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, “Ers cychwyn yn y swydd hon ar ddechrau’r flwyddyn, mae siarad â phobl ifanc a chasglu eu barn wedi bod yn flaenoriaeth i mi gan mai nhw fydd yn sicrhau parhad yr iaith Gymraeg i’r dyfodol.

“Rwyf eisoes wedi cwrdd â nifer ohonynt ac wrth fy modd gyda’u brwdfrydedd tuag at yr iaith. Er mwyn i iaith ffynnu mae angen iddi allu bodoli ar sawl lefel, yn ffurfiol ac anffurfiol, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at glywed yr eirfa ddaw o’r cynllun hwn - geirfa fydd yn cyfoethogi’n hiaith i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Dan ni’n adolygu ein cyrsiau ac adnoddau yn gyson er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol ac yn addas.  Wrth i ni ddarparu ar gyfer ystod iau o ddysgwyr, mae’n bwysig ein bod ni’n defnyddio iaith gyfoes, i’w helpu i deimlo’n fwy hyderus wrth siarad â phobl ifanc eraill yn eu cymunedau. 

“Mi gawson ni ymgyrch debyg y llynedd, ar y cyd â’r Mudiad Meithrin, i gasglu geiriau ‘siarad babi’ ac mae’r rhain bellach yn cael eu defnyddio yng nghylchoedd y Mudiad, grwpiau Ti a Fi a gweithgareddau Cymraeg i Blant ar gyfer rhieni a gofalwyr plant bach. 

“Dan ni rŵan yn galw ar bobl ifanc i roi gwybod i ni beth yw’r geiriau maen nhw’n eu defnyddio.” 

Gallwch gyfrannu geiriau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gyda’r hashtag #FyIaith neu trwy e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru

Bydd cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd ar gyfer pobl ifanc yn dechrau ym mis Medi, yn ogystal â chyrsiau ar gyfer oedolion o bob oed. Mae mwy o fanylion ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.