Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Iechyd: cwrs ar-lein

Iechyd: cwrs ar-lein

Cwrs Cymraeg ar-lein newydd ar gyfer y byd iechyd

Mae cwrs dysgu Cymraeg ar-lein newydd wedi’i greu yn arbennig ar gyfer y sector iechyd fel rhan o gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r cwrs 10 awr, rhad ac am ddim, yn cyflwyno geirfa ac ymadroddion perthnasol i staff rheng flaen, yn nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd eraill.  Elfen bwysig o’r cwrs yw cyngor ar ynganu.

Mae’r cwrs yn un o sawl cwrs ar-lein newydd, wedi’u teilwra ar gyfer gwahanol sectorau, sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o ‘Cymraeg Gwaith’, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle. 

Mae’r cyrsiau eraill wedi’u llunio ar gyfer gweithwyr gofal, a’r sectorau manwerthu a thwristiaeth a lletygarwch.

Ers lansio ‘Cymraeg Gwaith’ yn 2017, mae dros 7,000 o weithwyr ledled Cymru wedi dilyn hyfforddiant o dan y cynllun.

Mae cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, sydd wedi llunio’r strategaeth ‘Mwy na Geiriau’.  Mae’r gwaith hwn yn bwydo uchelgais y Llywodraeth o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Eglura Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:  “Mae’n rhaid i’r sector iechyd gyrraedd Safonau newydd sy’n cyd-fynd â rheolau newydd sy’n hybu’r Gymraeg. Mae’n hollbwysig annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn eu gyrfaoedd, ac annog pobl eraill i ddysgu’r iaith.

“Mae gwersi yn wych er mwyn datblygu hyder pobl sy’n siarad yr iaith i’w defnyddio ac i helpu pobl i ddysgu ond mae mynychu dosbarth rheolaidd yn anodd i weithwyr sy’n gweithio sifftiau. Mae hyblygrwydd cyrsiau ar-lein, felly, yn ddefnyddiol iawn ac rwy’n gobeithio bydd nifer o staff y GIG yn dechrau neu’n ail-ddechrau dysgu Cymraeg gyda’r cwrs hwn.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae’r ymateb i’r cynllun Cymraeg Gwaith wedi bod yn aruthrol ac mae galw go iawn am hyfforddiant dysgu Cymraeg hyblyg, wedi’i deilwra ar gyfer gwahanol sectorau, mewn gweithleoedd ledled Cymru.  ’Dyn ni’n falch iawn o fedru cyflwyno’r cwrs ar-lein newydd hwn.”

Diwedd

Glangwili group shot

Disgrifiad llun

Bydd staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymhlith y cyntaf yng Nghymru i roi cynnig ar y cwrs.  Mae’r Bwrdd eisoes wedi cefnogi’r cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, gyda staff yn dilyn y cwrs blasu ar-lein gwreiddiol sy’n rhan o’r cynllun, yn ogystal â chyrsiau preswyl codi hyder.

Yn y llun, o’r chwith i’r dde, rhes flaen, mae staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Gwenan Davies, Uwch Swyddog Iaith, Bernardine Rees, Cadeirydd a Tracy Davies, Ymarferydd Iechyd Meddwl, gydag Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; rhes gefn o’r chwith i’r dde, Mark Lawer, Uwch Seicotherapydd Ymddygiad Gwybyddol, Hyfforddwr/Goruchwyliwr a Martin Ellsmore, Ymarferydd Therapiwtig, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Meddai Bernardine Rees, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn falch o gefnogi cynllun Cymraeg Gwaith er mwyn cryfhau gwasanaethau dwyieithog eto fyth ar gyfer ein poblogaeth ddwyieithog.

“Mae nifer o staff y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys fi, wir wedi elwa o’r cwrs ar-lein a’r cyrsiau preswyl.  Dw i’n siŵr bydd y cwrs hwn hyd yn oed yn fwy poblogaidd gyda’n staff, gan ei fod wedi’i deilwra ar gyfer y maes gofal iechyd.  Mae profiad y claf yn flaenoriaeth i ni, ac mae hyd yn oed gair neu ddau o Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth, felly rhowch gynnig arni – mae’n wych!”

Darllenwch am brofiadau Tracy Davies yn dilyn y cynllun Cymraeg Gwaith.