Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tracy yn dysgu Cymraeg ar gyfer ei gwaith

Tracy yn dysgu Cymraeg ar gyfer ei gwaith

Tracy Davies, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae dysgu Cymraeg gyda chynllun ‘Cymraeg Gwaith’ wedi helpu Tracy Davies yn ei rôl fel Ymarferydd Iechyd Meddwl yn Nhŷ Myddfai, Caerfyrddin.

Mae Tracy, sy’n gyfrifol am wahanol therapïau, gan gynnwys Therapi Ymddygiad Gwybyddol, bellach yn gallu cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae hyn o fudd i’w chleifion bregus sy’n siarad Cymraeg.  Mae nifer ohonynt yn cael trafferth i esbonio eu teimladau yn eu hail iaith, Saesneg, ac o dro i dro, mae Tracy yn delio â phobl hŷn, rhai sydd wedi cael strôc neu sy’n dangos arwyddion o ddementia.  Mae trin a thrafod â’r cleifion hyn yn eu hiaith gyntaf yn hwyluso’r driniaeth ac yn sicrhau asesiad manwl a chywir.

Mae’r amseroedd aros ar gyfer ymarferydd Cymraeg yn yr adran ‘Gwasanaeth Dydd Therapiwtig’ hefyd wedi’u haneru, gan fod capasiti’r tîm wedi’i ddyblu.

Dilynodd Tracy, sy’n wreiddiol o Lanelli, gwrs ar-lein ‘Cymraeg Gwaith: Croeso’, sef cwrs 10-awr sy’n cyflwyno geirfa ac ymadroddion pob dydd.  Ar ôl gwneud y cwrs, roedd Tracy wedi magu hyder i ateb y ffôn yn Gymraeg a chyfarch pobl wrth y dderbynfa yn Gymraeg.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, fe fynychodd gwrs preswyl wythnos o hyd yng Nghastell Aberteifi.  Eglura Tracy:  “Roedd y cwrs ar-lein yn ‘refresher’ gwych ac yn ffordd dda o ddysgu sut i ddefnyddio’r eirfa oedd gen i’n barod mewn brawddegau llawn.

“Roedd y cwrs preswyl yn ffantastig!  Fi oedd yr unig un ar y cwrs oedd heb fynd i ysgol Gymraeg na byw mewn cymuned Gymraeg ei naws.  Roedd y tiwtor yn wych ac yn teilwra’r cwrs yn llwyr i anghenion y myfyrwyr.

“Roedd yn brofiad da dilyn y cwrs yn Aberteifi – wrth fynd o amgylch y dref ro’n i’n clywed y Gymraeg mewn ffordd naturiol.  Ar noson olaf y cwrs, nes i hyd yn oed freuddwydio yn Gymraeg – dyw hwnna byth wedi digwydd o’r blaen!”

Mae Tracy yn parhau â’i siwrnai iaith ac mae wedi cofrestru ar gwrs ‘Dysgu Cymraeg’ lefel Canolradd, sy’n cael ei gynnal yn y gymuned.  Mae wedi ymuno â ‘Chlwb Clecs Llanelli’, lle mae dysgwyr yn cwrdd i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg ac mae hi a’i theulu yn wylwyr selog o’r opera sebon Pobol y Cwm.

Mae Tracy yn ddiolchgar i’w rheolwr yn y gwaith, Mark Lawler, am ei gefnogaeth.  Mae Mark hefyd wedi dysgu Cymraeg ac mae’r ddau yn cynnal eu cyfarfodydd yn Gymraeg er mwyn ymarfer.

Ychwanega Tracy:  “Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am ddilyn cwrs ‘Cymraeg Gwaith’ yw i fynd amdani – does dim i’w golli.  Mae’n fwy na dysgu iaith, dych chi’n dysgu am y diwylliant hefyd.”

Mae'r cyrsiau ar-lein 'Cymraeg Gwaith' ar gael yma.

Diwedd