Jazz yw enillydd Dysgwr yr Ŵyl AmGen
Jazz Langdon, o Sir Benfro, yw enillydd Dysgwr yr Ŵyl AmGen, cystadleuaeth a gynhaliwyd ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Jazz, 27, sy’n byw yn Arberth, wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gwrs sabothol Cymraeg Mewn Blwyddyn gyda Rhagoriaith.
Mae’n gydlynydd y Gymraeg yn ei swydd newydd fel athrawes yn Ysgol Tavernspite. Mae’n canu gyda chôr ‘Bella Voce’ ac yn cael boddhad mawr wrth ddeall ystyr y caneuon ac wrth gymdeithasu gyda’i chyd-gantorion yn Gymraeg.
“Mae’r Gymraeg wedi agor llawer o ddrysau yn fy ngyrfa,” meddai Jazz. “Yn fy swydd dw i’n datblygu’r pwnc ac yn helpu athrawon eraill. Dw i’n ceisio defnyddio’r iaith drwy’r amser.”
Cyngor Jazz i ddysgwyr eraill yw “Siaradwch, siaradwch, siaradwch!” Ychwanega: “Mae Cymru yn falch iawn o’i dysgwyr – mae eisiau iddyn nhw lwyddo ac mae’n awyddus i’w cefnogi.”