Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Jazz yn ennill gwobr

Jazz yn ennill gwobr

Jazz yw enillydd Dysgwr yr Ŵyl AmGen

Jazz Langdon, o Sir Benfro, yw enillydd Dysgwr yr Ŵyl AmGen, cystadleuaeth a gynhaliwyd ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Mae Jazz, 27, sy’n byw yn Arberth, wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gwrs sabothol Cymraeg Mewn Blwyddyn gyda Rhagoriaith. 

Mae’n gydlynydd y Gymraeg yn ei swydd newydd fel athrawes yn Ysgol Tavernspite.  Mae’n canu gyda chôr ‘Bella Voce’ ac yn cael boddhad mawr wrth ddeall ystyr y caneuon ac wrth gymdeithasu gyda’i chyd-gantorion yn Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg wedi agor llawer o ddrysau yn fy ngyrfa,” meddai Jazz.  “Yn fy swydd dw i’n datblygu’r pwnc ac yn helpu athrawon eraill.  Dw i’n ceisio defnyddio’r iaith drwy’r amser.”

Cyngor Jazz i ddysgwyr eraill yw “Siaradwch, siaradwch, siaradwch!”  Ychwanega: “Mae Cymru yn falch iawn o’i dysgwyr – mae eisiau iddyn nhw lwyddo ac mae’n awyddus i’w cefnogi.”