Barti Ddu a Kyffin Williams yn ysbrydoli gŵyl i ddysgwyr
Bydd arddangosfa am Barti Ddu a gweithdy paentio yn null Kyffin Williams ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl i ddysgwyr, Ar Lafar, sy’n cael ei chynnal ar 21 Ebrill.
Mae’r ŵyl undydd, sy’n digwydd am yr eildro eleni, yn cael ei threfnu ar y cyd gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’n cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Bydd yr arddangosfa môr ladron yn Amgueddfa’r Glannau, gyda chyfle i gael blas ar anturiaethau Barti Ddu, Capten Morgan ac eraill yn y Caribî. Kyffin Williams sydd dan sylw yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd modd i ymwelwyr roi cynnig ar baentio yn arddull yr arlunydd mewn gweithdai arbennig yn ystod y dydd.
Bydd sesiynau celf hefyd ar gael yn yr Amgueddfa Lechi, yn ogystal â theithiau tu ôl i’r llenni. Yn Sain Ffagan, bydd adnodd newydd i ddysgwyr, hefyd o’r enw ‘Ar Lafar’, yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn yr ŵyl.
I gyd-fynd ag Ar Lafar, mae’r Ganolfan Genedlaethol hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cwrs ar-lein newydd, rhad-ac-am-ddim ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant hamdden a thwristiaeth. Mae’r cwrs 10-awr yn rhan o’r cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, sydd eisoes wedi darparu hyfforddiant i dros 4,000 o weithwyr ledled Cymru. Bydd y cwrs ar gael yn hwyrach yn y gwanwyn.
“’Dyn ni’n falch iawn bod Ar Lafar yn digwydd eto eleni, wedi llwyddiant y llynedd, gyda hyd yn oed yn fwy o weithgareddau a sesiynau diddorol ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd. ‘Dyn ni’n falch hefyd o fedru parhau’r bartneriaeth gyda’r Amgueddfa a’r Llyfrgell. Mae’r ŵyl yn gyfle, hefyd, i ni dynnu sylw at yr ystod o gyrsiau Cymraeg sydd ar gael, ar bob lefel, ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys y cwrs ar-lein newydd ar gyfer y maes hamdden a thwristiaeth.”
Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“’Dyn ni’n falch iawn o fedru croesawu dysgwyr a’u teuluoedd i safleoedd Amgueddfa Cymru. Mae Amgueddfa Cymru yn llwyfan i dreftadaeth ein gwlad ac yn gefnlen gwych i bobl o bob oed ddysgu’r Gymraeg a thrwy hynny ddysgu am ddiwylliant Cymru. Bydd croeso cynnes i bawb.”
Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru:
"Mae’n bleser mawr cael croesawu Ar Lafar yn ôl i’r Llyfrgell Genedlaethol a ’dyn ni’n hynod gyffrous eleni i gynnig profiadau newydd i’r dysgwyr a fydd yn ymweld â ni. Fel sefydliad, ’dyn ni bob amser yn awyddus i annog a chefnogi siaradwyr Cymraeg, boed yn rhugl neu’n ddysgwyr. Mawr obeithiwn y bydd digwyddiadau fel hwn yn rhoi’r hyder i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfforddus mewn mannau cyhoeddus fel y Llyfrgell, beth bynnag bo’u gallu."
Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: