Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Lansiad Ar Lafar

Lansiad Ar Lafar

Barti Ddu a Kyffin Williams yn ysbrydoli gŵyl i ddysgwyr 

Bydd arddangosfa am Barti Ddu a gweithdy paentio yn null Kyffin Williams ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl i ddysgwyr, Ar Lafar, sy’n cael ei chynnal ar 21 Ebrill.

Mae’r ŵyl undydd, sy’n digwydd am yr eildro eleni, yn cael ei threfnu ar y cyd gan Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’n cael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Bydd yr arddangosfa môr ladron yn Amgueddfa’r Glannau, gyda chyfle i gael blas ar anturiaethau Barti Ddu, Capten Morgan ac eraill yn y Caribî.  Kyffin Williams sydd dan sylw yn y Llyfrgell Genedlaethol.  Bydd modd i ymwelwyr roi cynnig ar baentio yn arddull yr arlunydd mewn gweithdai arbennig yn ystod y dydd.

Bydd sesiynau celf hefyd ar gael yn yr Amgueddfa Lechi, yn ogystal â theithiau tu ôl i’r llenni.  Yn Sain Ffagan, bydd adnodd newydd i ddysgwyr, hefyd o’r enw ‘Ar Lafar’, yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn yr ŵyl.

I gyd-fynd ag Ar Lafar, mae’r Ganolfan Genedlaethol hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno cwrs ar-lein newydd, rhad-ac-am-ddim ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant hamdden a thwristiaeth.  Mae’r cwrs 10-awr yn rhan o’r cynllun ‘Cymraeg Gwaith’, sydd eisoes wedi darparu hyfforddiant i dros 4,000 o weithwyr ledled Cymru.  Bydd y cwrs ar gael yn hwyrach yn y gwanwyn. 

“’Dyn ni’n falch iawn bod Ar Lafar yn digwydd eto eleni, wedi llwyddiant y llynedd, gyda hyd yn oed yn fwy o weithgareddau a sesiynau diddorol ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd. ‘Dyn ni’n falch hefyd o fedru parhau’r bartneriaeth gyda’r Amgueddfa a’r Llyfrgell. Mae’r ŵyl yn gyfle, hefyd, i ni dynnu sylw at yr ystod o gyrsiau Cymraeg sydd ar gael, ar bob lefel, ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys y cwrs ar-lein newydd ar gyfer y maes hamdden a thwristiaeth.”

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
Lansiad Ar Lafar

“’Dyn ni’n falch iawn o fedru croesawu dysgwyr a’u teuluoedd i safleoedd Amgueddfa Cymru.  Mae Amgueddfa Cymru yn llwyfan i dreftadaeth ein gwlad ac yn gefnlen gwych i bobl o bob oed ddysgu’r Gymraeg a thrwy hynny ddysgu am ddiwylliant Cymru.  Bydd croeso cynnes i bawb.”

Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru:

"Mae’n bleser mawr cael croesawu Ar Lafar yn ôl i’r Llyfrgell Genedlaethol a ’dyn ni’n hynod gyffrous eleni i gynnig profiadau newydd i’r dysgwyr a fydd yn ymweld â ni.  Fel sefydliad, ’dyn ni bob amser yn awyddus i annog a chefnogi siaradwyr Cymraeg, boed yn rhugl neu’n ddysgwyr.  Mawr obeithiwn y bydd digwyddiadau fel hwn yn rhoi’r hyder i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfforddus mewn mannau cyhoeddus fel y Llyfrgell, beth bynnag bo’u gallu."

Linda Tomos, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: