Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Lansio pecyn 'Croeso i Bawb'

Lansio pecyn 'Croeso i Bawb'
Yn y llun uchod, o'r chwith i'r dde: Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; Zaina Aljumma, sy'n dysgu Cymraeg; Gosia Rutecka, sydd wedi dysgu'r iaith; a Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ganolfan.

Lansio pecyn Dysgu Cymraeg trwy gyfrwng
Arabeg Syria, Wcreineg a ieithoedd eraill

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi lansio pecyn adnoddau ‘Croeso i Bawb’, sy’n cyflwyno’r Gymraeg a Chymru i bobl nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg.

Mae gwahanol adnoddau ar gael yn y pecyn rhad ac am ddim, trwy gyfrwng amryw o ieithoedd.

Mae modiwl hunan-astudio digidol yn cyflwyno dysgwyr i bobl a llefydd Cymru, hanes yr iaith, y celfyddydau, chwedlau a chwaraeon.  Bydd ar gael yn Wcreineg, Cantoneg, Arabeg Syria, Farsi a Pashto,

Mae un o bartneriaid y Ganolfan, SaySomethinginWelsh, hefyd yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg ar-lein trwy gyfrwng Arabeg Syria, Pashto, a Dari.

Mae cwrs blasu Dysgu Cymraeg, nad yw’n defnyddio unrhyw Saesneg, eisoes ar gael o dan arweiniad tiwtor ac mae’n cael ei ddefnyddio gan y Groes Goch ac Addysg Oedolion Cymru.  Fel rhan o’r pecyn newydd, mae’r cwrs hwn bellach ar gael fel cwrs hunan-astudio ar-lein.

Lansiwyd y pecyn adnoddau mewn digwyddiad yn Oasis, Caerdydd, gyda siaradwyr gwadd, gan gynnwys Zaina Aljumma a Gosia Rutecka, gwnaeth rannu eu profiadau o symud i Gymru ac o ddysgu’r Gymraeg.

Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:  “Mae Cymru'n falch o groesawu pobl o wahanol ddiwylliannau, crefyddau a chefndiroedd a dw i’n falch iawn bod pob un yr ydym yn ei groesawu i Gymru yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg - ein hiaith ni.

“Hoffwn ddymuno pob hwyl i bawb sy'n defnyddio'r adnoddau hyn i ddysgu’r Gymraeg. Mae'r iaith, wedi'r cyfan, yn perthyn i bawb yng Nghymru.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Ein nod yn y Ganolfan yw creu cyfleoedd newydd i oedolion ddysgu a mwynhau’r Gymraeg, a bydd yr adnoddau hyn yn hwyluso’r dysgu i bobl nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt neu nad ydynt yn siarad llawer o Saesneg.  Edrychwn ymlaen at groesawu hyd yn oed yn fwy o bobl i ddysgu gyda ni a dod i wybod mwy am Gymru.”

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “’Dyn ni wedi cydweithio’n agos gyda gwahanol bartneriaid a chyfieithwyr i lunio’r adnoddau hyn, ac mae’r Ganolfan yn ddiolchgar iddynt am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad.  Ein nod ni nawr yw i ledaenu’r neges, fel bod pobl yn gwybod bod yr adnoddau hyn ar gael.”

Diwedd

26 Ionawr 2023

Nodiadau i’r golygydd

  • Pashto a Dari yw ieithoedd swyddogol Affganistan. Mae Dari hefyd yn cael ei defnyddio yn Iran a Tajikistan.  Mae Dari, Farsi (sy’n cael ei defnyddio yn Iran) a Tajik yn dafodieithoedd yr un iaith, sef Perseg.  Mae Pashto hefyd yn cael ei defnyddio ym Mhacistan a rhannau o ogledd Iran.  Mae Arabeg Syria yn cyfeirio at un o’r tair brif dafodieithoedd, Arabeg Lefantaidd, sy’n cael ei defnyddio yn Syria, yr Iorddonen, Palesteina a’r Lebanon.  Mae’r dafodiaith yn cael ei defnyddio a’i deall yn rhwydd mewn sgyrsiau a bywyd pob dydd.

 

Gair gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg