Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Liz Day yn dysgu Cymraeg

Liz Day yn dysgu Cymraeg

Mae Liz Day yn dod o Sir Amwythig ac mae'n mwynhau dilyn cwrs Cymraeg dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd.  Mae'n ysgrifennu blog diddorol am ei phrofiadau: www.lizlearnswelsh.wordpress.com. 

Dyma ychydig o'i hanes...

  1. Beth yw dy gefndir?
    Es i i’r ysgol yn Church Stretton, Sir Amwythig, yn agos at y ffin rhwng Lloegr a Chymru. Ro’n i wrth fy modd gyda ieithoedd ac fe wnes i astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol Bryste. Fel myfyriwr, fe dreuliais i flwyddyn yn gweithio fel cynorthwy-ydd iaith mewn coleg ger Toulouse ac fe wnes i hefyd wirfoddoli yn Madagascar.  Fe ddechreuais i ymwneud â phapur newydd y myfyrwyr ac fe astudiais i newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn gweithio fel gohebydd i WalesOnline, y Western Mail a’r South Wales Echo.

  2. Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
    Ro’n i wedi bod yn byw yn ne Cymru am bron 10 mlynedd ac yn sylweddoli ei fod yn wirion mod i ond yn gallu dweud “diolch”! Pan symudais i i Gaerdydd, o’n i’n arfer mynd i dafarn y Mochyn Du ac yn dyheu am gael siarad yn Gymraeg gyda’r staff. Fel newyddiadurwr yn gweithio ar bob dim o Lys y Goron i gyfarfodydd cyngor, prosiectau cymunedol a digwyddiadau diwylliannol, fe ddes i i sylweddoli pa mor bwysig yw’r Gymraeg. Dw i’n mwynhau dysgu rhywbeth newydd a dw i hefyd yn gobeithio y bydd yn helpu gyda fy nghyfleoedd gyrfa. 

  3. Ble/sut wyt ti’n dysgu?
    Dw i’n dilyn cwrs dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cwmpasu Mynediad, Sylfaen a rhan gyntaf Canolradd o fewn un flwyddyn. Mae’r gwersi ar Zoom am awr a hanner ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Ro’n i’n amheus am ddysgu iaith trwy ddefnyddio fideo gynadledda – o’n i’n credu byddai cryn dipyn o “Rwyt ti ar mute.  O na, rwyt ti wedi rhewi!” Ond, mewn gwirionedd, mae’n gweithio’n dda iawn ac mae’r ‘breakout rooms’ yn wych ar gyfer gweithio mewn pâr neu mewn grŵp bach.

  4. Wyt ti’n cael cyfle i ymarfer/defnyddio dy Gymraeg?
    Dw i’n ffaelu gwadu’r peth, dw i bach yn hooked ar Duolingo… a dw i newydd basio streak 80-diwrnod. Fe brynais i siaced i’r gwdihŵ sbel yn ôl a dw i’n safio’r gemau ar gyfer gwisg uwch-arwr. Dw i wir yn mwynhau podlediad Pigion, sydd wedi’i greu ar gyfer dysgwyr Cymraeg ac sy’n cynnwys uchafbwyntiau wythnosol BBC Radio Cymru. Fe wnes i wylio’r ffilm Patagonia o 2010 ar DVD yn ddiweddar – yn sicr y ffilm Saesneg, Sbaeneg a Chymraeg gyntaf i fi ei gweld!  Dw i’n ffaelu aros i weld drama neu gig Cymraeg unwaith bydd y cyfyngiadau coronafeirws yn caniatáu.

  5. Beth yw dy hoff beth?
    Fy hoff beth am ddysgu Cymraeg hyd yma yw cwrdd â phobl newydd. Mae’r gymuned mor gefnogol ac yn llawn anogaeth. Dw i’n mwynhau’n fawr dod i adnabod fy nghyd-ddysgwyr – pobl o wahanol gefndiroedd.  Mae’n gyffrous dysgu sgil newydd.  Dw i’n caru bod yr iaith o’m cwmpas i mewn bywyd pob dydd ac wrth i fi basio arwydd neu boster dw i’n meddwl i fi fy hun, “Dw i’n deall beth mae hynny’n ei olygu nawr!” Mae’n teimlo fel ffordd newydd o gysylltu gyda phobl a’r byd o’m cwmpas.  Fy hoff beth fel arall?  Tafarn glyd ar ôl bod am dro i ben mynydd. 

  6. Beth yw dy gas beth?
    O ran dysgu Cymraeg? Cerddoriaeth gofiadwy ymarferion Robin Radio yn sownd yn fy mhen! Hefyd, mae’n teimlo bod 100 ffordd wahanol o ddweud ie a na! Yn gyffredinol? Internet trolls!

  7. Beth wyt ti’n mwynhau gwneud yn dy amser hamdden?
    Dw i wir yn mwynhau treulio amser yn yr awyr agored, a dyna un o’r rhesymau dw i’n caru byw yng Nghymru.  Fe ddechreuais i feicio mynydd yn y brifysgol a dw i’n ymweld yn rheolaidd â’r canolfannau llwybrau coedwig yng Nghwmcarn a Pharc Coedwig Afan.  Dw i hefyd yn mwynhau dringo a dw i’n treulio dipyn o amser yng nghanolfan Boulders yng Nghaerdydd, yn ogystal â chlogwyni cyfagos – fy hoff un yw Witches Point ar draeth Southerndown ym Mro Morgannwg.  Dw i hefyd yn dysgu sgiliau sidan awyr (aerial silks) fel rhan o gymunedau syrcas NoFit State ac Up Side Down.

  8. Wyt ti wedi darllen unrhyw lyfrau Cymraeg/gwylio unrhyw deledu Cymraeg? Beth yw dy hoff lyfr neu raglen?
    Gwnes i ddim darllen llyfr Ffrangeg nes mod i wedi bod yn dysgu am bum mlynedd, ond fe wnes i orffen fy llyfr Cymraeg cyntaf ar ôl pump wythnos! Enw’r llyfr oedd ‘Am Ddiwrnod’ gan Margaret Johnson. Mae’r llyfr wedi’i anelu at ddysgwyr ar lefel Mynediad ac mae geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen. Ar hyn o bryd dw i’n darllen y llyfr nesaf ar y rhestr ddarllen, sef ‘Wynne Evans – o Gaerfyrddin i Go Compare’. O ran y teledu, mae ‘Am Dro’ yn grêt.  Mae’n debyg i raglen Come Dine With Me, ond gyda’r cystadleuwyr yn arwain teithiau cerdded gwahanol!

  9. Beth yw dy hoff air Cymraeg?
    Galla i fod yn hy a gofyn am ymadrodd..? Caru yr un yma: Bydd yr haul yn gwenu.  

  10. Unrhyw gyngor i bobl eraill sy’n dysgu Cymraeg?
    Weithiau mae’n anodd, ond daliwch ati!

  11. Disgrifia dy hun mewn tri (neu bedwar) gair!
    Penderfynol. Positif. Meddwl agored.