Bydd dros 50 o ddysgwyr o dde Cymru yn manteisio ar adnodd addysgiadol newydd sbon wrth ymweld â Sain Ffagan fore Iau, 15 Tachwedd 2018.
Mae pecyn Llwybrau Llafar wedi cael ei greu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac yn addas ar gyfer dysgwyr o bob lefel.
Bydd dysgwyr o ardaloedd Gwent, Morgannwg a chriw o athrawon y Cynllun Sabothol – cynllun arbennig i ddysgu Cymraeg i athrawon - yn treulio bore ar y safle er mwyn ymarfer eu sgiliau Cymraeg trwy ddilyn yr adnodd am y tro cyntaf.
Bydd y pecyn yn galluogi’r dysgwyr i ddysgu mwy am adeiladau eiconig Sain Ffagan, gan gynnwys Ysgol Maestir, Eglwys Sant Teilo a Thai Teras Rhyd y Car ac mae’r gweithgareddau wedi’u seilio ar lefelau dysgu gwahanol y sector Dysgu Cymraeg.
Wrth fynd o amgylch y safle a dilyn canllawiau’r pecyn, bydd modd i’r dysgwyr wneud gwaith pâr ac ateb cwestiynau sydd wedi’u gosod ar y gwahanol adeiladau. Yn ychwanegol, bydd geirfa ddefnyddiol ar bob tudalen er mwyn eu cynorthwyo gyda’r tasgau.
Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio’n agos â’r amgueddfa a bydd Ar Lafar, gŵyl undydd Gymraeg i ddysgwyr yn dychwelyd i’r safle ar 6 Ebrill 2019.
Yn ôl Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
‘‘Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â’r gwaith o greu’r pecyn gwerthfawr hwn. ’Dyn ni’n edrych ymlaen at ymweld â’r safle a defnyddio’r adnodd am y tro cyntaf ddydd Iau. Gobeithio y gwnaiff y pecyn gyfoethogi profiad unrhyw ddysgwr ddaw i Sain Ffagan yn y dyfodol a chryfhau eu sgiliau iaith Gymraeg ar yr un pryd.’’
Mae nifer gyfyngedig o gopïau papur o’r pecyn ar gael yn Sain Ffagan neu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol neu gellir lawr lwytho copi ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yma.